Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Miss Saigon

Aileni'r Chwedl

Theatr Donald Gordon

2 – 6 Mehefin 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Miss Saigon {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2683

Miss Saigon

Aileni'r Chwedl

2 – 6 Mehefin 2026

Theatr Donald Gordon

Mae Michael Harrison mewn cydweithrediad â Cameron Mackintosh yn cyflwyno cynhyrchiad newydd ysblennydd o Miss Saigon wrth i sioe gerdd Boublil a Schönberg gael ei haileni.

Mae’r sgôr yn cynnwys caneuon poblogaidd fel The Heat is On, The Movie in My Mind, Last Night of the World a The American Dream.

Cyn y West End, mae'r cynhyrchiad epig yma yn cyrraedd Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Mehefin fel rhan o daith fawr ledled gwledydd Prydain ac Iwerddon. 

Yn nyddiau olaf Rhyfel Fietnam, mae Kim, sy’n 17 oed, yn cael ei gorfodi i weithio mewn bar yn Saigon sy’n cael ei redeg gan gymeriad drwg-enwog sy’n cael ei adnabod fel The Engineer. Yno mae hi’n cwrdd ac yn syrthio mewn cariad â GI Americanaidd o’r enw Chris, ond maen nhw’n cael eu gwahanu yn ystod cwymp Saigon. Am 3 blynedd mae Kim yn mynd ar daith oroesi epig i ffeindio ei ffordd yn ôl i Chris, sydd â dim syniad fod ganddo fab.

'A superb new Saigon for our times'

The Telegraph

'Spectacular theatrical invention with cinematic intensity'

Whatsonstage

'As passionate, powerful and heartbreaking as ever'

The Scotsman

Canllaw oed: 14+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed.

Rhybuddion Cynnwys: Nodwch fod y cynhyrchiad yma yn cynnwys golygfeydd o natur rywiol a threisgar, themâu amser rhyfel, arfau tanio, iaith fychanol a bras, defnydd o gyffuriau ac efelychu smygu sigaréts.

Mae’r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys goleuadau strôb, ergydion gwn, effeithiau sain uchel, tawch theatraidd a phyrotechneg.

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 40 munud, gan gynnwys un egwyl.

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig. Dod yn aelod.

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Maw – Iau (2 bris uchaf). Trefnu ymweliad grŵp.

POBL O DAN 16 OED

Gostyngiad o £5 ar seddi penodol, Maw – Iau.

16-30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau.

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Capsiynau Agored

Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)

Sain Ddisgrifiad

Teithiau Cyffwrdd

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Sioeau Cerdd

Gweld popeth
BG-JUL25-BBs-CARDIFF-1280x960

The Bodyguard

KK26036_1280x960pxls_CARDIFF

The Karate Kid

Mrs Doubtfire

Blood Brothers

Cardiff-1280x960

Just For One Day: The Live Aid Musical

TINA – The Tina Turner Musical

Cyflwynir mewn cydweithrediad â Tina Turner

Here & Now: The Steps Musical

Here & Now: The Steps Musical

PQOTD_New_CardiffOnSale_1280 x 960

Priscilla Queen of the Desert

Sunny Afternoon

Buddy – The Buddy Holly Story

LB_CARDIFF_DIGI ASSET UPDATES_SEP25_1280x960

Legally Blonde

PercyJackson-Thumb

The Lightning Thief: The Percy Jackson Musical

Matilda The Musical

Miss Saigon

Aileni'r Chwedl

Bill Kenwright Ltd yn cyflwyno

Barnum

Cynhyrchiad Y Watermill Theatre

A Night At The Musicals

Gyda Welsh of the West End a The Novello Orchestra

MG-2025-06-B&Bs-ATG-1280x960

Mean Girls

Annie

MM!-2025-09-Tour-Cardiff On Sale-Thumbnail-1290x96055401SA

MAMMA MIA!

WAITRESS-2026-01-CHFVenuesAssetUpdate-57030SA-ΓÇïCDF-55302SA-1280x960

Waitress

DirtyDancing-Thumb

Dirty Dancing

The Choir of Man

JB_CARDIFF_ON SALE ASSETS_OCT25_What’s On Thumbnail 1280x960 (1)

Jersey Boys