Galwad i bob addysgwr sy'n gweithio gyda dysgwyr chwilfrydig a chreadigol! Ymunwch â'r Cyflwynydd Rachel Leach, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a'r Arweinydd Ellie Slorach am gyngerdd llawn ysbrydoliaeth i ysgolion, sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm ac yn archwilio Mytholeg a Chwedloniaeth drwy gerddoriaeth.
Mae'r cyngerdd rhyngweithiol AM DDIM hwn wedi'i greu ar gyfer plant oedran cynradd ac mae'n gam cyntaf gwych i fyd cerddoriaeth gerddorfaol. Gyda chymysgedd bywiog o ddarnau cerddorfaol a ffefrynnau clasurol poblogaidd wedi'u hysbrydoli gan fythau a chwedlau, bydd disgyblion yn dod wyneb yn wyneb ag arwyr dewr, dihirod ffiaidd a chreaduriaid hudolus ... pob un wedi'i ddod yn fyw mewn ffordd gyffrous gan gerddorfa symffoni lawn!
Yn y cyngerdd, ceir cyfuniad o wrando dan arweiniad a chyfleoedd i ddarganfod yn annibynnol, gan helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau gwrando, dysgu geirfa gerddorol, a magu hyder. Bydd pob dosbarth hefyd yn cael cyfle i ddysgu a pherfformio caneuon gyda'r gerddorfa, ac mae yna weithdai paratoi ac adnoddau ar-lein o ansawdd uchel i ategu hyn.
Mae’r cyngerdd wedi'i llunio gyda disgyblion oed cynradd mewn golwg – plant 7-8 oed a hŷn yn benodol – ac nid yw wedi’i fwriadu ar gyfer ysgolion uwchradd. Mae croeso cynnes i leoliadau addysg arbennig a disgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref – mae’r awyrgylch hamddenol a chynhwysol yn cefnogi amrywiaeth eang o anghenion dysgu.
Mae’r cyngerdd hwn yn ddelfrydol i ddisgyblion sy’n anghyfarwydd â cherddoriaeth gerddorfaol – dyma gyfle iddynt rannu profiad cyffredin sy’n dod â dysgu’n fyw, gan sbarduno chwilfrydedd, dychymyg a chreadigrwydd drwy brofi gwefr cerddorfa fyw.
Y Pethau Da i'w Gwybod!
Er mwyn ein helpu i greu’r profiad gorau posibl i bawb, gall BBC NOW groesawu hyd at ddau ddosbarth fesul ysgol (tua 60 o ddisgyblion), ynghyd ag oedolion i’w hebrwng. Rydyn ni’n argymell un athro neu warcheidwad ar gyfer pob 10-12 disgybl. Gan ein bod yn gweithio mewn neuadd lai ac yn cynnal un cyngerdd yn unig eleni, does dim modd i ni ddelio â grwpiau mawr na newidiadau munud olaf, ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth yn hyn o beth.
I archebu tocynnau, ffoniwch swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 029 2063 6464 rhwng 11am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Mae croeso i ddisgyblion sy’n cael eu haddysgu gartref ddod gyda rhiant neu warcheidwad, a bydd dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael ar ochr chwith y llwyfan.
Mae hwn yn gyngerdd hamddenol a chynhwysol, heb oleuadau’n fflachio na chlecian swnllyd mwyaf sydyn. Bydd man tawel ar gael y tu allan i’r neuadd, ac mae mynediad heb risiau ar gael i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Wrth archebu, bydd angen i chi roi enw cyswllt, enw’r ysgol neu’r sefydliad addysg, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
Ar ôl i chi archebu, byddwn yn anfon y manylion ymarferol llawn atoch, gan gynnwys gwybodaeth am barcio bysiau, iechyd a diogelwch, a gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth. Byddwn hefyd yn cysylltu ag ysgolion i drefnu gweithdai yn yr ysgol i helpu disgyblion i elwa’n fwy fyth o’r profiad.
Sylwch y bydd y cyngerdd yn cael ei ffilmio i’w ddarlledu ar wefan BBC NOW yn y dyfodol. Bydd man eistedd pwrpasol ar gael i bobl nad ydynt eisiau cael eu ffilmio, a bydd staff yn fwy na pharod i’ch helpu wrth i chi gyrraedd. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Canllaw oedran: Mae’r cyngerdd wedi'i llunio gyda disgyblion oed cynradd mewn golwg – plant 7-8 oed a hŷn yn benodol – ac nid yw wedi’i bwriadu ar gyfer ysgolion uwchradd.
Amser dechrau:12:45pm
Hyd y perfformiad:Tua 1 awr a 15 munud
Gwybodaeth hygyrchedd:
Mae hwn yn gyngerdd hamddenol a chynhwysol, heb oleuadau’n fflachio na chlecian swnllyd mwyaf sydyn. Bydd man tawel ar gael y tu allan i’r neuadd, ac mae mynediad heb risiau ar gael i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.A bydd dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gael ar ochr chwith y llwyfan.