Wyt ti rhwng 11 a 20 oed ac yn hoffi dawns, theatr, cerddoriaeth neu Hip-hop?
Mae Academi Next Up yn ôl ar gyfer 2027 gyda thro Hip-hop ar Alice in Wonderland.
Os wyt ti'n actor, yn gyfansoddwr geiriau, yn DJ, yn ddawnsiwr, yn artist, yn MC neu'n bît-bocsio, neu ddim ond yn chwilfrydig i roi cynnig ar rywbeth newydd, Academi Next Up yw dy lwyfan di i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â ffrindiau newydd a pherfformio ar y llwyfan yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Beth yw'r drefn?
Mae Academi Next Up yn rhedeg rhwng mis Hydref 2026 a mis Ebrill 2027.
Cam 1: Academi Next Up x Matilda the Musical
Hydref 2026 – Ionawr 2027
Bydd pethau'n dechrau gyda diwrnod llawn o hyfforddiant gydag artistiaid o’r Cwmni Shakespeare Brenhinol, ochr yn ochr â’r coreograffydd Onyx Uwandulu a’r gwneuthurwr theatr Lorien Tear.
Yna byddi di'n cymryd rhan mewn sesiynau wythnosol bob dydd Llun o fis Hydref tan fis Rhagfyr o dan arweiniad Lorien ac Onyx i ddyfeisio 'golygfa goll' o Matilda the Musical… ond gyda thro theatr Hip-hop!
Byddi di hefyd yn cael rhannu dy olygfa gyda chynulleidfa wadd fach ym mis Ionawr 2027.
Cam 2: ‘Alice in Wonderland’
Ionawr – Ebrill 2027
Nesaf, byddwn ni'n ffurfio cast a chwmni Alice in Wonderland, cynhyrchiad theatr a dawns Hip-hop gwreiddiol yn cael ei greu'n arbennig ar gyfer Academi Next Up.
Gan weithio ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol, DJs a bregddawnswyr, byddi di'n helpu i ddod â'r stori'n fyw cyn perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae'r cam yma'n cynnwys:
- Ymarferion wythnosol ar nos Lun rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2027
- Ymarferion Dwys yn Hanner Tymor mis Chwefror: dydd Llun i ddydd Gwener, 11am – 4pm
- Ymarferion Wythnos y Cynhyrchiad: 30 Mawrth – 2 Ebrill 2027
- Perfformiad olaf yn Dros Nos 2027 yn Stiwdio Weston
Ar gyfer pwy?
Unrhyw un rhwng 11 a 18 oed sydd eisiau bod yn greadigol, magu hyder ac adrodd straeon drwy Hip-hop a theatr.
Dim ots wyt ti'n perfformio'n barod neu'n rhoi cynnig arni am y tro cyntaf, fe fydden ni'n falch o gwrdd â ti.
Sut mae cymryd rhan?
Ymuna â Diwrnod Agored Academi Next Up ddydd Sadwrn 24 Hydref, 11am – 4pm
Dere draw:
- i gwrdd â thîm Academi Next Up
- i gymryd rhan mewn gweithdai creadigol
- i roi cynnig ar wahanol elfennau o theatr Hip-hop drosot ti dy hunan
- i ddysgu mwy am y rhaglen
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, a hynny ar sail y cyntaf i'r felin. Cofrestra nawr drwy ein tudalen Eventbrite:
Sut ydw i’n cofrestru?
Caiff llefydd eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin. Cofrestra drwy ein tudalen Eventbrite yma:Cliciwch yma
Hygyrchedd
Rydyn ni’n ymrwymo i gefnogi pobl ifanc B/byddar, anabl a niwroamrywiol, rhai sydd â chyflyrau meddygol, gofynion hygyrchedd neu unrhyw brofiad bywyd a all fod angen addasiadau, cymorth neu sensitifrwydd.
Os hoffet ti drafod sut y gallwn ni dy gefnogi di neu os oes gennyt unrhyw gwestiynau, e-bostia platfform@wmc.org.uk
EIN CYRSIAU PLATFFORM
Rhaglen hyfforddi unigryw yw Platfform sy’n cynnig cyfle i bobl ifanc archwilio eu diddordebau, mynegi eu hunain, meithrin hyder creadigol a rhannu eu stori drwy ddysgu ymarferol.