Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
Andrew Schneider [NOWISWHENWEARE (the stars)] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

NOWISWHENWEARE (the stars)

Crewyd gan Andrew Schneider

Canolfan Mileniwm Cymru

27 Mai – 26 Mehefin 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London NOWISWHENWEARE (the stars) {{::on_sale_date.label}} Canolfan Mileniwm Cymru MM/DD/YYYY 15 event-2925

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

NOWISWHENWEARE (the stars)

Crewyd gan Andrew Schneider

27 Mai – 26 Mehefin 2026

Canolfan Mileniwm Cymru

Mae’r profiad yma’n rhan o Wobr Annwn, gwobr fyd-eang newydd sy’n dathlu straeon ymdrochol gan artistiaid o bob cwr o’r byd. Wedi’u henwebu gan gymuned ryngwladol o guradwyr a sylwebwyr, mae pedwar darn o waith y rhestr fer yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru, gan eich gwahodd i gamu i mewn i’r stori. Pedwar byd, un lleoliad.

Camwch i mewn i dywyllwch llwyr a dewch yn ganolbwynt cytser sy’n symud.

Mae NOWISWHENWEARE (the stars) yn osodwaith ymdrochol, rhyngweithiol, golau a sain sy’n arwain pob ymwelydd drwy fonolog mewnol am alar, cymuned a bod amser ond yn symud mewn un cyfeiriad. Yn y pen draw, mae’n stori amdanoch chi.

Mae gosodwaith pwerus Andrew Schneider yn eich tynnu chi i mewn i gyfarfod myfyriol a hynod bersonol ag amser, cof a phresenoldeb. Gosodwaith theatraidd rhyngweithiol lle mae’r gynulleidfa yn camu i mewn i dywyllwch llwyr ac yn dod yn ganolbwynt cytser sy’n symud. Dan arweiniad adroddwr cudd, mae cyfranogwyr yn teithio o amddifadedd synhwyraidd llwyr i fatrics wedi’i raglennu’n union o bron i 4,000 o oleuadau LED adweitheddol a seinwedd 496 o sianeli. Mae’r gwaith yn tynnu ymwelwyr i mewn i ffocws manwl o’r presennol, gan olrhain pob penderfyniad maen nhw wedi’i wneud sydd wedi arwain at yr union eiliad hwnnw. Gwnaeth y pwyllgor dewis ganmol ei ddull hynod wreiddiol o adrodd straeon gofodol, celfgarwch technegol manwl a’r cyflymder meistrolgar sy’n gwahodd cynulleidfaoedd i fyfyrio ar sut rydyn ni’n treulio ein hamser a’r ystyr rydyn ni’n ei ddarganfod mewn gweithredoedd pob dydd.

Yn rhannol yn fyfyrdod, yn rhannol yn archwiliad, mae’r uniad yma o dechnoleg a theatr yn gyfle prin i ymgolli eich hun yn y sêr.

“Mae’r gwaith rwy’n ei wneud yn dechnegol iawn, ond nid y dechnoleg sy’n bwysig. Mae gen i fwy o ddiddordeb yn y defnydd o’r dechnoleg a sut y gall ddod â ni’n agosach at ein gilydd, ein hysgwyd ni rhag y synthetig a chynnig profiad go iawn i ymwybyddiaeth pob aelod o’r gynulleidfa, yn hytrach na gwylio rhywbeth “draw fynna”. Mae gen i ddiddordeb mewn sut y gall creu profiadau ystyrlon ar sail amser arwain at ryngweithio mwy ystyrlon rhwng pobl.” – Andrew Schneider

Clodrestr

Cysyniad, Ysgrifennu, Cyfansoddiad a Gwneuthuriad: Andrew Schneider

Dylunio Sain a Golau: Andrew Schneider

Cyd-ddylunio Sain: Bobby McElver

Goruchwyliwr Sain: Jørgen Noodt Skjærvold

Peirianneg Meddalwedd Ychwanegol: Oren Shoham

Ymgynghorydd Dramayddiaeth: ayo ohs

Rheolwr Cynhyrchu: Karl Allen

Cynhyrchydd Cyswllt: Lily Comeau

Cynhyrchwyd gan Jecca Barry / Fin Productions

Cyflwyniad: “Dad, Jim a HNC”

Cynhyrchwyd NOWISWHENWEARE yn wreiddiol gan Miranda Wright + Los Angeles Performance Practice. Roedd datblygiad yn bosibl gyda chymorth gan Sefydliad Celfyddydau Brown, Menter Celfyddydau a Thechnoleg Coleg Carleton, Sefydliad Simons a Science Sandbox, The Voxel, Sefydliad Onassis, Rhaglen Rhyngddisgyblaethol Sefydliad Sundance ac Eliko Industries.

Diolch arbennig i Sonia Baidya, Karl Allen, Vallejo Gantner, Xuan Huang, ayo Ohs, Ryan Peng, Yulia Strizheus, Chris Ashworth a The Voxel.

Gyda chefnogaeth

Sefydliad Celfyddydau Brown

Sefydliad Onassis

Coleg Carleton

The Voxel

Sefydliad Simons

Sefydliad Ucross

La Jolla Playhouse

Eliko Industries

Archebu Tocynnau:

Gallwch chi archebu ar gyfer pob profiad unigol drwy glicio ar y tudalennau isod a dewis pris eich tocyn ac amser:
Cyntaf i’r felin (dilys 27–31 Mai): Safonol £6 / Consesiwn £5
Safonol: £8
Consesiwn: £6
 
Wrth archebu ar gyfer y 4 profiad ar yr un pryd (gall hyn fod ar gyfer dyddiadau gwahanol, ond rhaid archebu mewn un trafodiad) byddwch chi’n cael gostyngiad:
Cyntaf i’r felin (dilys 27–31 Mai): Safonol £20 / Consesiwn £18
Safonol: £25
Consesiwn: £20

Ysgolion, colegau a phrifysgolion, cysylltwch â ni'n uniongyrchol am becyn pwrpasol yn tocynnau@wmc.org.uk.
 
Nodwch mai eich cyfrifoldeb chi yw rheoli eich amser rhwng profiadau os byddwch chi’n archebu ar gyfer mwy nag un mewn diwrnod. Cofiwch ystyried hyd y profiadau (sydd wedi’u nodi ar dudalennau’r profiadau), symud rhwng lleoliadau a chyfyngiadau eraill ar amser a all fod tu hwnt i’n rheolaeth. Ni fydd bob amser yn bosibl eich symud chi yn awtomatig i’r slot amser nesaf.

Oriau Agor
Dydd Mawrth - Dydd Iau: 12.20pm – 8pm (Mynediad olaf 7.20pm)
Dydd Gwener - Dydd Sul: 11.20am – 8pm (Mynediad olaf 7.20pm)

Hyd y profiad: 30 munud, fodd bynnag mae croeso i chi aros cyhyd ag yr hoffech chi. Nodwch ar gyfnodau prysur, efallai bydd gofyn i chi aros cyn cael mynediad. 

Capasiti: 15

Canllaw Oed: 12+

Hygyrchedd: Mae hwn yn brofiad rhyngweithiol ar eich traed lle mae rhyddid i aelodau’r gynulleidfa symud o gwmpas yr ystafell. Mae’r lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn a fframiau cerdded, a gellir darparu cadeiriau ar gais. Nodwch: bydd cyfnodau o dywyllwch llwyr a synau uchel achlysurol.

Rhybuddion: Mae’r profiad yn cynnwys cyfeiriadau amwys anaml at ryw a mastyrbio a geiriau a allai gael eu hystyried yn anaddas i blant ifanc. Mae'n cynnwys goleuadau sy'n fflachio, synau uchel a chyfnodau o dywyllwch llwyr. 

Iaith: Saesneg

Cwestiynau Cyffredin

Beth alla i ddisgwyl o’r profiad?

Mae NOWISWHENWEARE (the stars) yn osodwaith golau, bydd disgwyl i chi grwydro drwy’r ystafell dan arweiniad naratif myfyriol. Ni fydd angen i chi ddefnyddio unrhyw offer yn yr ystafell.

Beth yw’r mesurau iechyd a diogelwch?

Mae’r profiad yma yn cynnwys eiliadau o dywyllwch, goleuadau sy’n fflachio a sŵn uchel a allai fod yn ddryslyd i unigolion sy’n niwroamrywiol, sydd ag amhariadau clywedol neu weledol, neu sy’n profi’r bendro, epilepsi, penysgafnder, trawiadau, salwch teithio neu lewygu.

Bydd hwyluswyr wedi’u hyfforddi wrth law i roi cymorth ac arweiniad yn ystod y profiad os bydd angen.

Ni fydd unrhyw westeion sy’n cyrraedd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn gallu cymryd rhan yn y profiad.

Cyflwynir yn

Canolfan Mileniwm Cymru

Profiadau Ymdrochol

Gweld popeth
Novaya [Colored/Noire] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Colored (Noire) - The Unsung Life of Claudette Colvin

Pierre-Alain Giraud, Tania de Montaigne, Stéphane Foenkinos, Novaya

Andrew Schneider [NOWISWHENWEARE (the stars)] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

NOWISWHENWEARE (the stars)

Crewyd gan Andrew Schneider

sister sylvester [Constantinopoliad] courtesy of Jill Steinberg

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Constantinopoliad

Wedi'i greu gan sister sylvester

Karen Palmer [Consensus Gentium]

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Consensus Gentium

Wedi'i greu gan Karen Palmer

Gwobr Annwn 2026

Gweld popeth
Novaya [Colored/Noire] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Colored (Noire) - The Unsung Life of Claudette Colvin

Pierre-Alain Giraud, Tania de Montaigne, Stéphane Foenkinos, Novaya

Andrew Schneider [NOWISWHENWEARE (the stars)] (1)

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

NOWISWHENWEARE (the stars)

Crewyd gan Andrew Schneider

sister sylvester [Constantinopoliad] courtesy of Jill Steinberg

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Constantinopoliad

Wedi'i greu gan sister sylvester

Karen Palmer [Consensus Gentium]

Gwobr Annwn yn cyflwyno:

Consensus Gentium

Wedi'i greu gan Karen Palmer