Ai cwis yw hwn?
Ai cabaret yw e?
Bêbs, y ddau yw e!
Bachwch eich ffrindiau mwyaf clyfar, meddyliwch am enw tîm gwirion, a dewch draw i Cabaret am noson gwis llawn lliw.
Y cyflwynydd fydd ‘The Welsh (un)dresser’ Oola Pearl ac yn ymuno â hi y mis yma fydd y maestro clown Ennrico Touche. Gallwch ddisgwyl llond lle o gwestiynau, chwerthin a bwrlésg, gydag ambell i syrpreis a gwobrau digywilydd ar hyd y ffordd.
Caru cwis? Caru cabare? Caru noson allan dda? Dyna’r ateb cywir! Archebwch eich tocynnau nawr.
Dim mwy na 4 aelod mewn tîm
Amser dechrau: 7pm, 6pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret