Yn y rhaglen ddwbl bwerus hon, mae dau ddarn o waith eithriadol o’r 20fed ganrif yn dod at ei gilydd mewn byd cyffredin o ddefod, dirgelwch a dwyster seicolegol.
Yn Bluebeard’s Castle, mae Judith yn gadael popeth ar ôl er mwyn bod gyda’r Dug Bluebeard enigmatig. Mae’n darganfod yn fuan bod ei dŷ'n llawn drysau clo ac wrth iddi fynnu bod pob un yn cael ei agor, mae'n dadlennu nid yn unig cyfrinachau ei orffennol, ond rhywbeth llawer mwy cythryblus. Wrth iddi nosi, mae’n amhosibl gwahanu cariad ac ofn.
Yn yr ail hanner, daw'r un gosodiad llwm yn ddinas hynafol Thebes ar gyfer Oedipus Rex. Mae pla'n lledaenu drwy'r wlad, ac mae’r brenin yn benderfynol o ddatgelu'r gwir y tu ôl iddo. Wrth i'w chwilio ddwysáu, mae’n cael ei orfodi i ddod wyneb yn wyneb â ffawd nad yw’n gallu ei hosgoi. Daw’r hyn sy'n dechrau fel mynd ar drywydd atebion yn ddatgeliad torcalonnus.
Mae’r perfformiad unedig, gothig a llawn awyrgylch hwn yn weledol drawiadol ac yn creu cysylltiadau pwerus rhwng dwy chwedl fythol.
Yn cynnwys cerddoriaeth gan Hildegard Von Bingen
Arweinydd Lydia Yankovskaya
Cyfarwyddwr Joe Hill-Gibbins
Cast Nathan Berg, Peter Hoare, Christine Rice,
Cynhyrchiad gwreiddiol o Bluebeard’s Castle gan English National Opera
Caiff ei ganu yn Hwngareg a Lladin gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Amser dechrau:
Sul 20 Medi 4pm
Gwe 25 Medi + Gwe 2 Hydref 7.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 5 munud yn cynnwys un egwyl
CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU
Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10%
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15%
Archebwch docynnau ar gyfer 4 opera ac arbedwch 20%
Ar gyfer pecynnau aml-brynu, mae'n rhaid prynu'r un nifer o docynnau ar gyfer pob opera. Yn gymwys i'r 3 pris drutaf. Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+, gostyngiad o £4 (prisiau 2 - 5)
Trefnu ymweliad grŵp
YSGOLION
£12.50 - yn berthnasol i seddi penodol (nifer cyfyngedig ar gael). Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464 neu cofrestru fel archebwr ysgol.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy