Yn Ardal Lladin, Paris, mae pedwar artist ifanc yn byw i’r funud, gan rannu’r ychydig sydd ganddynt; yn ceisio gwireddu breuddwydion mawr ac yn chwerthin yn yr oerfel.
Pan mae Rodolfo yn cwrdd â Mimì, gwniadwraig dawel gyda’i gobaith yn pylu, mae eu cysylltiad yn fythgofiadwy yn y fan a’r lle. Ond mewn byd wedi’i lywio gan dlodi ac angerdd, mae’r cariad yn danbaid ond yn llawer rhy fyr.
Mae campwaith teimladwy iawn Puccini yn cyfleu angerdd ieuenctid drwy rywfaint o’r gerddoriaeth hyfrytaf a'r fwyaf adnabyddus a gyfansoddwyd erioed. Mae La bohème yn dwyn i gof ysbryd a dwyster bywyd bohemaidd: y llawenydd o syrthio mewn cariad, y boen o ollwng gafael a bregusrwydd y cyfan.
Mae’r cynhyrchiad clodfawr hwn yn ailddychmygu’r stori boblogaidd hon gydag eglurder trawiadol a phŵer emosiynol. Fe’i lleolwyd mewn byd llwm, monocrom wedi’i ysbrydoli gan Baris y 1930au, lle mae cysgodion yn loetran a marwolaeth byth yn bell.
Y canlyniad yw La bohème sy’n teimlo’n fythol a chyfoes. Mae’n darlunio portread byw o fywydau ifanc yn byw ar y dibyn, lle mae pob eiliad yn bwysig a phob ffarwél yn brifo.
wno.org.uk/cy/boheme
Cynhyrchiad Gwreiddiol Glyndebourne
Arweinydd Corinna Niemeyer
Cyfarwyddwr Floris Visser
Rodolfo Carlos Cardoso
Mimì Alexia Voulgaridou
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Rhybuddion: Goleuadau sy’n fflachio a goleuadau strobio
Amser dechrau:
Sul 27 Medi 4pm
Iau 1 Hydref + Sad 3 Hydref 7.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud yn cynnwys un egwyl
CYNNIG AML-DOCYN OPERA CENEDLAETHOL CYMRU
Archebwch docynnau ar gyfer 2 opera ac arbedwch 10%
Archebwch docynnau ar gyfer 3 opera ac arbedwch 15%
Archebwch docynnau ar gyfer 4 opera ac arbedwch 20%
Ar gyfer pecynnau aml-brynu, mae'n rhaid prynu'r un nifer o docynnau ar gyfer pob opera. Yn gymwys i'r 3 pris drutaf. Caiff y cynnig ei brosesu yn eich basged siopa.
CYNIGION GRŴP
Grwpiau 10+, gostyngiad o £4 (prisiau 2 - 5)
Trefnu ymweliad grŵp
YSGOLION
£12.50 - yn berthnasol i seddi penodol (nifer cyfyngedig ar gael). Tocyn athro am ddim gyda phob 10 disgybl. Ffôn 029 2063 6464 neu cofrestru fel archebwr ysgol.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy