Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
NATALIEROE

Parti Creu Pecyn o Samplau gyda Natalie Roe

Stiwdio Wolfson

10 Hydref 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Parti Creu Pecyn o Samplau gyda Natalie Roe {{::on_sale_date.label}} Stiwdio Wolfson MM/DD/YYYY 15 event-3169

LLAIS

Parti Creu Pecyn o Samplau gyda Natalie Roe

10 Hydref 2026

Stiwdio Wolfson

Ymunwch â’r artist a enillodd Wobr Oram yn 2023, Natalie Roe, mewn gweithdy archwiliadol tair awr sy’n cyflwyno ac yn datblygu profiad cyfranogwyr o ddefnyddio samplau wedi’u recordio mewn cerddoriaeth. Mae’r gweithdy yma ar gyfer menywod a chyfranogwyr nad
ydyn nhw’n cydymffurfio o ran eu rhywedd.

Yn ystod y sesiwn, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i greu cronfa o synau a chlipiau cerddoriaeth byr, gan ddefnyddio’r llais ac offerynnau electronig. Dan arweiniad Natalie Roe, bydd hon yn sesiwn chwareus i ddatblygu pecyn samplau gyda’n gilydd, a gall y cyfranogwyr wedyn fynd ag ef adref gyda nhw i greu ymhellach.

Mae Natalie Roe yn gyfansoddwraig, yn gynhyrchydd ac yn artist electronig sy’n gweithio rhwng Caerdydd a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae hi’n cyfuno synau acwstig ac electronig â chyfryngau eraill mewn amrywiaeth o brosiectau amlddisgyblaethol. Mae hi’n arbenigo mewn perfformio tirluniau sain electronig yn fyw gyda syntheseisydd modiwlaidd a ddefnyddir ganddi yn aml i drin a manipwleiddio synau o’r byd go iawn.

Amlinelliad y sesiwn:

  • Croeso a chyflwyno'ch hun

  • Perfformiad fer o'r synth modwlar a llais

  • Rhaniad o broses greadigol Natalie a'r lleisydd

  • Dangosiad o'r dechnoleg - yn enwedig y synth modwlar

  • Amser archwilio, cyfranogwyr mewn grwpiau, parau, neu'n unigol yn creu seiniau lleisiol ac electroneg

  • Recordiad o samplau trwy gydol yr amser archwilio

  • Rhannu'ch profiad, seiniau, a'ch sylwadau i gloi.

Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.

Mae Gwobrau Oram yn falch o gael cydweithio â Tŷ Cerdd | Cerddoriaeth Cymru drwy raglen Gŵyl y Llais, ynghyd â’r lleoliad llawr gwlad Paradise Garden, i ddod â chymunedau o Gymru, y Deyrnas Unedig ac o bedwar ban byd ynghyd yng Nghaerdydd dros benwythnos 9–11 Hydref.

Mae Gwobrau Oram a Tŷ Cerdd yn ddau sefydliad sy’n frwd eu cefnogaeth i artistiaid benywaidd a rhywedd-amrywiol sy’n archwilio amrediad eang sain, a’r ddau yn dod at ei gilydd i ddathlu’r byd creadigol anarferol, unigryw a di-hid y maent yn ei hyrwyddo.

Bydd hyn oll yn cyrraedd Caerdydd 8 Hydref, wrth i enillwyr Gwobrau Oram eleni ymuno â Tŷ Cerdd a chymuned Llais i brofi’r byd cerddoriaeth arbrofol yng Nghymru. O sesiynau cymdeithasol a gweithdai i berfformiadau byw, bydd digon o gyfleoedd i’r cyhoedd ehangach gymryd rhan a mynychu digwyddiadau o dan faner Oramic Waves.

Dim ond £5 yw’r pris mynediad i bob digwyddiad. Gan fod lleoliadau’r digwyddiadau hyn yn tueddu i fod yn fach, argymhellir yn gryf eich bod yn archebu ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi.

Amser dechrau: 1pm

Ar agor i: Menywod ac artistiaid rhywedd-amrywiol o unrhyw lefel

Cyflwynir yn

Stiwdio Wolfson

Llais

Gweld popeth
5b812d78-4dd2-4f0e-9e5f-80cfbe531720

LLAIS

Bess Atwell

Blind Boys_LAGC-Mob

LLAIS

Blind Boys of Alabama + London African Gospel Choir

26071 Llais_Individual-Announcement_EW_V1225

LLAIS

Tristwch y Fenywod + Joanne Robertson + Jasper Llewellyn

Shovel Dance_Naima-Mob

LLAIS

Shovel Dance Collective + Naima Bock

24f1966b-f0a8-4d9d-b6eb-3ba28985f771

LLAIS

Jordan Playfair

LLAIS

Landless

49919f81-ea5e-4761-a5c6-cc6509edb0e0

LLAIS

Sirens: Wedi’i gyflwyno gan Lisa Hannigan

Gyda Theodora Byrne Trio, Jane Patterson, Helen Murray, Amanda Bergman, Kate Stables, Landless, Bess Atwell, Charlotte Church + mwy

Tomos Williams Photo Credit Matthew Thistlewood

LLAIS

Tomos Williams' Cwmwl Tystion III / Empathy

WMP26-Sgwar

LLAIS

Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

0ef180e6-ca87-48fc-9f5f-994db5ae0d0f

Sinema Realiti Rhithwir – Rhaglen gyda'r Nos

Just For You Trilogy

VR CINEMA IMAGE

Sinema Realiti Rhithwir - Rhaglen yn ystod y Dydd

The Art of Change | Bodies of Water | Ôl Haunts

69ce8bb5-bcab-49ba-aed5-54048ce84d43

LLAIS

Laurie Anderson: Friends and Teachers

Buena Vista_Baobab-Mob

LLAIS

Buena Vista All Stars + Orchestra Baobab

Platfform llais - Thumb

Radio Platfform yn Cyflwyno…

Radio Platfform yn Llais: Dathlu 10 Mlynedd

ORAMICWAVES

LLAIS

Sesiwn cymdeithasu Oramic Waves

NATALIEROE

LLAIS

Parti Creu Pecyn o Samplau gyda Natalie Roe