CYFFROUS | ANGERDDOL | BYWIOG
Prokofiev Symffoni Rhif 1 | Clasurol’
Rachmaninov Concerto i’r Piano Rhif 4
Tchaikovsky Symffoni Rhif 6 | ‘Pathétique’
Daw’r arweinydd Gemma New yn ôl at Gerddorfa Gymreig y BBC ym mis Ionawr gyda rhaglen o gampweithiau Rwsiaidd, gan ddechrau gyda gwaith nad oes angen llawer o gyflwyniad iddo, sef Symffoni ‘Glasurol’ bywiocaol Prokofiev. Er nad yw’n waith hir, mae’r gwaith poblogaidd hwn yn arddangos hynny o nerth sydd gan ‘gerddorfa glasurol’ i’r eithaf ac mae’n parhau i fod gyda’r mwyaf poblogaidd o weithiau Prokofiev gan berfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.
Gweithiau eraill poblogaidd iawn yw concerti piano Rachmaninov, ac yma cawn brofi reid wyllt harmonig-lachar, sinematig a thanllyd ei Bedwerydd Concerto. I ateb y galw poblogaidd, pleser o’r mwyaf yw croesawu’r pianydd o Wcráin, Vadym Kholodenko, enillydd gwobrau lu, yn ôl atom fel unawdydd. Ac i gloi’r cyngerdd, Chweched Symffoni emosiynol ac ysgubol Tchaikovsky, sy’n ein cario drwy anobaith tywyll sy’n ddigon i’n llethu â’i ddwyster, yna dawnsiau bywiog ac ymdeithganau tanbaid cyn i’r Pathétique farw’n ddim yn y campwaith aeddfed anghyffredin hwn.
Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed, rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Amser cychwyn: 3.00pm
Hygyrchedd Cadair Olwyn
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
DAN 26 OED A MYFYRWYR
£6
ANABIL A DIGYFLOGEDIG
£10
DROS 65 OED
£12
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.