Philip Jazz melodaidd gydag ysbrydoliaethau o bob cwr o’r byd.
Mae gwreiddiau De Affrica’r pianydd/cyfansoddwr a gafodd ei eni yn Cape Town wedi ysbrydoli mordaith o ddarganfod sydd wedi arwain at angerdd llawn calypso’r Caribï, melodïau blues caneuon canmol y dwyrain canol, siglo brwd cerddoriaeth ddawns Ciwba a hanfodion melodaidd Gospel gan anrhydeddu arwyr jazz gan gynnwys Bill Evans, Keith Jarrett a Charles Lloyd.
Fel aelod allweddol o’r ensemble jazz byd poblogaidd yn Llundain Zubop a’i gangen ZubopGambia, gydag enillydd gwobr Cerddoriaeth y Byd y BBC Juldeh Camara, mae Clouts wedi creu corff cadarn o waith gyda gwreiddiau Affricanaidd ac ers symud i Dorset yn 2006 mae wedi ymateb i’w amgylchedd newydd gyda chyfansoddiadau argraffiadol sy’n ategu ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth y byd, sy’n atseinio gyda themâu cryf ac sy’n llawn cyhyr rhythmig cryf.
Mae’r CD diweddaraf gan y Philip Clouts Quartet yn un o’r don gyntaf o gerddoriaeth i gael ei rhyddhau ar yr argraffnod jazz newydd gan y label clodfawr Odradek Records. Ar yr albwm yma, o’r enw Umoya (sy’n dod o’r gair Zulu am rym bywyd), mae ysbrydoliaethau Affricanaidd Clouts yn ymestyn tu hwnt i jazz Cape i gerddoriaeth Gnawa ac Afrobeat, ac ymhellach i gerddoriaeth werin a jazz-enaid traws-Ewropeaidd. Yng nghwmni’r sacsoffonydd talentog Samuel Eagles, y basydd Tim Fairhall a’r drymiwr Ted Carrasco, mae’n dod â’i daith gerddorol yn fyw gyda gallu cerddorol gwych ac egni heintus.
"The best of British jazz”
Amser dechrau: 7pm, 6pm drysau
Oed: 18+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret