Taith o Deimlad a Meistrolaeth
Ymgollwch eich hunain mewn 'galwad o'r synhwyrau' lle mae'r piano yn gallu bod yn frwsh paent cain yn ogystal a cherddorfa sy’n rhuo. O dynerwch barddonol yr Arabeske gan Schumann i weadau dyfrol pefriog Jeux d'eau gan Ravel, mae rhaglen heddiw yn archwilio y cysylltiad dwys rhwng sain, stori ac enaid.
Profwch yr hiraeth rhamantaidd yn sonedau Liszt gan a ysbrydolwyd gan yr Eidal, y gwychder pensaernïol yn y Partita i’r Ffidil gan Bach trwy lygaid y cyfansoddwr Rwsieg arbennig Sergei Rachmaninoff, y dyfnder emosiynol yn y Pedwerydd Baled wych gan Chopin, gan orffen mewn sioe dân gwyllt dechnegol yr Amrywiadau sydd wedi eu trwytho â Jazz gan Kapustin. Ymunwch â'r pianydd, Simon Shewring, am brynhawn o gerddoriaeth piano sydd yn gaddo aros yn eich clustiau yn hir ar ôl i’r nodyn olaf dawelu.
Rhaglen
Arabeske yn C Fwyaf, Op.18 SCHUMANN
Suite o’r Partita Ffidil yn E Fwyaf, BWV 1006 BACH/RACHMANINOFF
Prelude
Gavotte
Gigue
Jeux d’eau RAVEL
Tri darn o ‘Années de Pèlerinage’ LISZT
Blwyddyn 2 - Yr Eidal S.161
Sonetto 104 del Petrarca
Sonetto 123 del Petrarca
Canzonetta del Salvator Rosa
Baled rhif 4 yn F leiaf, Op.52 CHOPIN
Amrywiadau, Op.41 KAPUSTIN
Amser Dechrau: 4pm
Hyd y Perfformiad: Tua 1 awr a 25 munud (gyda egwyl)
HYGYRCHEDD CADAIR OLWYN
Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.
Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.