Comedi sgetsys gyda Carwyn Blayney (Gwobrau Comedi Newydd y BBC 2025) ac Ekow Quartey (Amandaland y BBC).
Mae Quartey a Blayney yn cyflwyno llwyth o gymeriadau a sgetsys gwahanol. Rhai'n rhyfedd, rhai'n taro tant, pob un ohonyn nhw'n arbennig ar dy gyfer di. Yn serennu Carwyn Blayney (Gwobrau Comedi Newydd y BBC 2025, enillydd Gwobr Standyp Digontract Cymru 2024, sy'n serennu ar hyn o bryd yn Ar Led S4C) ac Ekow Quartey (sy'n serennu ar hyn o bryd fel JJ yn Amandaland y BBC, Pedro yn Becoming Elizabeth ar Lionsgate+, a Mark yn Smothered ar Sky, ac sy'n Enwebai Dwbl yng Ngwobrau Ian Charleson ac yn Artist Cyswllt yn Glôb Shakespeare)
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret