Ar werth i aelodau Partner a Partner Awen 4 Awst, 10am
Ar werth i aelodau Ffrind 6 Awst, 10am
Ar werth i Grwpiau 7 Awst, 10am
Ar werth i'r cyhoedd 8 Awst, 10am
Mae'r 'Transatlantic Ensemble' yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru yn dilyn galw mawr, ar ôl sioeau sydd wedi gwerthu allan yma ddwy flynedd yn olynol a pherfformiadau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin a ledled y DU a werthodd pob tocyn.
Byddan nhw’n perfformio albwm Rumours eiconig Fleetwood Mac yn ei gyfanrwydd, yn ogystal â llwyth o ganeuon eraill adnabyddus Fleetwood Mac. Dewch i brofi un o’r albymau gorau erioed, wedi’i ail-greu yn fyw mewn ffordd dyner a chywir, gan yr ensemble syfrdanol yma o gerddorion a chantorion ifanc talentog.
Mae rhywbeth mor atgofus am yr albwm Rumours – rhywbeth sy’n taro tant gyda phob cefnogwr cerddoriaeth go iawn. Mae wedi bod yn drac sain i fywydau nifer o genedlaethau.
Os ydych chi’n hoff o’r albwm, peidiwch â cholli’r perfformiad aruthrol yma gan ensemble anhygoel. Dewch â’ch llais canu a byddwch yn barod i gael eich rhyfeddu, am fod y band yma yn syfrdanol!
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed)
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn
Amser dechrau: 7.30pm, 6.45pm drysau
Hyd y perfformiad: 2 awr a 10 munud yn cynnwys egwyl
Rhybuddion: Goleuadau sy’n fflachio
Archebwch cyn gynted ag y gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.