Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Storïau a’r Tymhorau

Neuadd Hoddinott Y BBC

28 Mai 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Storïau a’r Tymhorau {{::on_sale_date.label}} Neuadd Hoddinott Y BBC MM/DD/YYYY 15 event-2724

Neuadd Hoddinott

Storïau a’r Tymhorau

28 Mai 2026

Neuadd Hoddinott Y BBC

DIDDAN | PERSAIN | BYWIOG

Marta Ptaszyńska A Winter's Tale

Concerto i’r Soddgrwth

Mendelssohn A Midsummer Night's Dream:  Agorawd

Beethoven Symffoni Rhif 2

Daw’r arweinydd Paweł Kapuła â gwaith o’i famwlad, Gwlad Pwyl, i lwyfan Neuadd Hoddinott y BBC wrth wneud ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Gymreig y BBC ym mis Mai. Mae Marta Ptaszyńska’n cymryd synau Vivaldi ac yn eu trawsnewid yn ddarlun sain newydd, swreal bron, yn A Winter’s Tale, a ysgrifennwyd ym 1984. Bydd Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3, Sterling Elliott, yntau’n ymddangos am y tro cyntaf gyda’r Gerddorfa yng Nghoncerto telynegol a myfyriol Schumann i’r Soddgrwth, a chawn flas ar waith Mendelssohn ar ffurf stori dylwyth teg sinematig yn ei agorawd i A Midsummer Night’s Dream.

Er na chaiff ei pherfformio mor aml â rhai o’i symffonïau eraill, mae Ail Symffoni Beethoven yn rhoi cipolwg inni ar Beethoven ar ei fwyaf smala. O elfennau annisgwyl a chwareus i ffrwydrad hy o lawenydd, mae llawer i’w fwynhau yn y symffoni hon o gyferbyniadau mawr.

Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed, rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Amser dechrau: 7:30pm

Hygyrchedd Cadair Olwyn

Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.

DAN 26 OED A MYFYRWYR

£6

ANABIL A DIGYFLOGEDIG

£10

DROS 65 OED

£12

CYNLLUN HYNT

Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Neuadd Hoddinott Y BBC