Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Seinwedd America

Neuadd Hoddinott Y BBC

5 Gorffennaf 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Seinwedd America {{::on_sale_date.label}} Neuadd Hoddinott Y BBC MM/DD/YYYY 15 event-2726

Neuadd Hoddinott

Seinwedd America

5 Gorffennaf 2026

Neuadd Hoddinott Y BBC

NODWEDDIADOL | GORFOLEDDUS | YSBRYDOLEDIG

Copland Appalachian Spring
Christopher Tin Piano Concerto [premiere DU]
William Grant Still Festive Overture
Barber Agnus Dei
Bernstein Chichester Psalms

I nodi 250 mlynedd ers llofnodi’r datganiad annibyniaeth, dyma raglen hollol Americanaidd yn cynnwys rhai o gyfansoddwyr enwocaf erioed America, o Copland, Barber a Bernstein i William Grant Still a Christopher Tin.

Yn fwyaf adnabyddus am ei draciau sain i ffilm, teledu a gemau fideo, mae Christopher Tin yn enw poblogaidd ym myd cerddoriaeth sinematig heddiw, ac mae ei Goncerto i’r Piano, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Lara Downes, yn cael ei berfformiad cyntaf yn y Deyrnas Unedig ganddi heddiw, wythnos yn unig ar ôl ei première byd. Mae Festive Overture William Grant Still yn rhoi naws parti i’r noson, tra bod Appalachian Spring Copland yn crynhoi ysbryd y ffin a’r ddawns. Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn flaenllaw yn nhrefniant lleisiol Barber ei hun o’i Adagio for Strings wedi’i osod i eiriau’r Agnus Dei, ac mae’r Gerddorfa a’r Corws yn cyfuno’n nerthol yn Chichester Psalms Bernstein, gwaith beiddgar o ysbrydol ac afieithus. I arwain y gerddorfa rydym yn croesawu’r arweinydd Affricanaidd Americanaidd enwog Kellen Gray.

Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed, rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Amser cychwyn: 3pm

Hygyrchedd Cadair Olwyn

Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.

DAN 26 OED A MYFYRWYR

£6

ANABIL A DIGYFLOGEDIG

£10

DROS 65 OED

£12

CYNLLUN HYNT

Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi dethol, dyraniadau ac argaeledd.

Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)

Cyflwynir yn

Neuadd Hoddinott Y BBC