Digwyddiad cymunedol, mewn cydweithrediad â'r Oram Awards a Tŷ Cerdd, sy’n gyfle i artistiaid arbrofol ac archwiliadol, cynulleidfaoedd a threfnwyr llawr gwlad ddod at ei gilydd i rannu profiadau a mwynhau bwyd a cherddoriaeth wych!
Bydd croeso i bob math o ffyrdd o ymgysylltu â’r gymuned, a lle i gymryd rhan lawn mewn sgyrsiau, yn ogystal ag opsiynau ar gyfer mannau tawel i ffwrdd o brysurdeb y digwyddiad, ynghyd â gorsafoedd gwrando gyda chlustffonau wedi’u gosod o amgylch y lleoliad. Bydd y sesiwn gymdeithasol a’r bwyd (gyda darpariaeth ar gyfer pob math o ddeiet) yn ffurfio rhan gyntaf y digwyddiad, ac yna byddwn yn symud ymlaen at berfformiadau gan:
Rachel Devorah Rome a Pam Rose Cott
Perfformiad byrfyfyrio byw am y tro cyntaf rhwng dau artist sydd â gwreiddiau dwfn mewn arferion arbrofol.
May Swoon / Neo Ukandu
Mae Neo Ukandu yn artist anabl sy’n unigryw ac arloesol ym myd cerddoriaeth bop arbrofol ac indi-electronica Cymru.
Rachel Devorah Rome – enillydd Gwobr Oram 2026
Mae Rachel Devorah Rome yn gerddor electronig sy’n gwerthfawrogi amynedd peiriannau a’u gallu i gofio. Mae ganddi ddiddordeb yn y tebygrwydd rhwng priodweddau ffisegol lleoliadau a’u hystyron cymdeithasol. Mae Rachel yn creu cerddoriaeth fyrfyfyr fyw ar y cyd ag artistiaid o amrywiaeth o genres.
Pam Rose Cott – artist Tŷ Cerdd
Mae Pam Rose Cott yn lleisydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith yn bodoli’n bennaf ym myd creu sioe, perfformio a sain fyrfyfyr, ac mae bellach wedi ymestyn am y tro cyntaf i ryddhau’n swyddogol, ‘Nosegay’ (sef tusw bach o flodau a gâi ei wisgo gan fenywod o flaen eu hwynebau i’w hamddiffyn rhag arogleuon drwg a chlefydau). Mae hi’n perfformio er mwyn archwilio cynddaredd, dygnwch, bregusrwydd a chysylltiad.
May Swoon / Neo Ukandu – enillydd Gwobr Oram 2026
Mae Neo yn arwain dau brosiect arloesol, sef May Swoon a Friends Are Evul. Caiff Neo foddhad wrth arbrofi gyda dulliau DIY ac elfennau annisgwyl, gan ddefnyddio sŵn, effeithiau ‘glitch’, samplwyr caledwedd a phatrymau syntheseisydd personol i greu traciau. Mae Neo yn frwd dros rannu’r broses o greu cerddoriaeth electronig arbrofol gyda chyfoedion anabl, trwy ryddhau a gwrthwynebu.
Yn falch o fod yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd.
Mae Gwobrau Oram yn falch o gael cydweithio â Tŷ Cerdd | Cerddoriaeth Cymru drwy raglen Gŵyl y Llais, ynghyd â’r lleoliad llawr gwlad Paradise Garden, i ddod â chymunedau o Gymru, y Deyrnas Unedig ac o bedwar ban byd ynghyd yng Nghaerdydd dros benwythnos 9–11 Hydref.
Mae Gwobrau Oram a Tŷ Cerdd yn ddau sefydliad sy’n frwd eu cefnogaeth i artistiaid benywaidd a rhywedd-amrywiol sy’n archwilio amrediad eang sain, a’r ddau yn dod at ei gilydd i ddathlu’r byd creadigol anarferol, unigryw a di-hid y maent yn ei hyrwyddo.
Bydd hyn oll yn cyrraedd Caerdydd 8 Hydref, wrth i enillwyr Gwobrau Oram eleni ymuno â Tŷ Cerdd a chymuned Llais i brofi’r byd cerddoriaeth arbrofol yng Nghymru. O sesiynau cymdeithasol a gweithdai i berfformiadau byw, bydd digon o gyfleoedd i’r cyhoedd ehangach gymryd rhan a mynychu digwyddiadau o dan faner Oramic Waves.
Dim ond £5 yw’r pris mynediad i bob digwyddiad. Gan fod lleoliadau’r digwyddiadau hyn yn tueddu i fod yn fach, argymhellir yn gryf eich bod yn archebu ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi.
Amser dechrau: 1pm