Mae Shellyann yn gantores-gyfansoddwraig o Rondda Cynon Taf, y mae ei llais pwerus yn cyfuno canu gwlad a phop pwerus. Enillodd seren BBC Radio Wales sylw cenedlaethol ar The Voice UK cyn mynd ymlaen i ennill sioe boblogaidd y BBC All Together Now yn 2019.
Yn ffan mawr o ganu gwlad ac yn gyflwynydd achlysurol ar y Country Show ar BBC Radio Wales, mae sain Shellyann wedi cael ei gymharu â chymysgedd o Bonnie Raitt, Carrie Underwood a Kelly Clarkson. Mae hi bellach yn teithio'r byd yn perfformio ar lwyfannau rhyngwladol wrth barhau i ysgrifennu a rhyddhau ei cherddoriaeth ei hun.
Nawr yn dychwelyd adref i Gymru, mae Shellyann yn perfformio ei chaneuon gwreiddiol ei hun wrth rannu'r straeon y tu ôl i'w thaith hyd yma - ochr yn ochr â theyrngedau pwerus i artistiaid eiconig gan gynnwys Whitney Houston a llawer mwy.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret