Showgirls and Sharks: Hunangofiant cerddorol gwallgof. Stori wir am sut y rhedodd merch ifanc i ffwrdd gyda'r syrcas a dod yn ddawnswraig Burlesque enwog o Gymru.
Mae Showgirls and Sharks yn dilyn y ddawnswraig ddi-ofn "FooFoo LaBelle" trwy adrodd hanes ei bywyd ar ffurf sioe gerdd anhygoel. Gyda chyfeiliant y Maestro cerddorol Jenna Dyckhoff, mae'r ddeuawd sy'n ganeuon a dawnsio i gyd yn datgelu cyfrinachau’r ddawnswraig a deithiodd o amgylch y byd.
Bydd y daith am enwogrwydd hon yn gwneud i chi chwerthin, yn cyffwrdd â’ch emosiynau ac, ar adegau, yn torri’ch calon. Cewch weld taith o hunan-ddarganfod sy'n rhychwantu pum degawd a thri chyfandir. Byddwch chi’n cwrdd â dawnswyr bale, eliffantod syrcas, siarcod sy’n perfformio a chathod pantomeim yn ystod y noson unigryw hon o adrodd straeon, caneuon a chabaret.
Antur gerddorol sy’n datgelu stori wir am oroesi bywyd fel menyw, y byd adloniant a phopeth sydd gan y byd i'w gynnig cyn dod o hyd i’r llawenydd sy’n gysylltiedig â chartref. Stori anhygoel a fydd yn eich gwneud i chi gydganu, chwerthin yn uchel a sychu’ch dagrau wrth i chi ddarganfod bod dawnswragedd yn union debyg i win cain neu gaws drewllyd: maen nhw'n gwella gydag oed!
Amser dechrau: 7pm, 6pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref a noethni posibl
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret