Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
swf-new

Single White Female

JAS Theatricals, ATG Entertainment a Gavin Kalin Productions

Theatr Donald Gordon

27 - 31 Ionawr 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Single White Female {{::on_sale_date.label}} Theatr Donald Gordon MM/DD/YYYY 15 event-2687

Single White Female

JAS Theatricals, ATG Entertainment a Gavin Kalin Productions

27 - 31 Ionawr 2026

Theatr Donald Gordon

Gall rhannu fflat fod yn lladdfa…

Yn seiliedig ar y ffilm seicolegol gyffrous eiconig o’r 90au, mae premiere byd y cynhyrchiad llwyfan o Single White Female yn ailddychmygiad dewr a modern o’r llyfr a’r ffilm lwyddiannus, a fathodd ymadrodd ac arwain cenhedlaeth i ofni sawdl stileto!

Gyda’r amldalentog Kym Marsh (Coronation Street, Waterloo Road ac Abigail’s Party) a'r actores a cyflwynydd Lisa Faulkner (Holby City, Murder In Suburbia, John and Lisa’s Weekend Kitchen), mae Single White Female yn ein gwahodd ni i fyd lle mae ymddiriedaeth yn fregus, mae cyfeillgarwch yn cael ei brofi, ac mae cyfrinachau yn cuddio tu ôl i bob drws caeedig.

Yn llawn hiwmor tywyll a gyda stori siarp a gafaelgar, sy’n archwilio cymhlethdodau cyfeillgarwch, rhyw, mamolaeth a hunaniaeth, dyma hanes gwefreiddiol am uchelgais, obsesiwn a’r angen ffyrnig i berthyn mewn byd unig.

Mae Allie yn fam sydd wedi cael ysgariad yn ddiweddar, ac sy’n cydbwyso bod yn rhiant sengl gyda lansiad ei chwmni technegol. Pan mae’n penderfynu hysbysebu am letywr i gael deupen llinyn ynghyd, mae Hedy yn cynnig llinell gymorth iddi. Ond wrth i’w bywydau ymblethu, mae’r ffiniau’n pylu ac mae trefniant sy’n ymddangos yn berffaith yn dechrau datod.

Gan gynhyrchydd yr addasiad llwyfan llwyddiannus o The Girl on the Train, bydd Single White Female yn cyfareddu, yn synnu ac yn eich cadw ar flaen eich sedd tan y diwedd.

Peidiwch â cholli’r profiad theatraidd bythgofiadwy yma sy’n archwilio pa mor bell y byddwn ni’n mynd i ddod o hyd i deulu a’i gadw ynghyd.

Addaswyd i'r llwyfan gan Rebecca Reid

Cyfarwyddwyd gan Gordon Greenberg

Drama lwyfan newydd yn seiliedig ar y ffilm seicolegol gyffrous gan Columbia Pictures a’r llyfr "SWF Seeks Same" gan John Lutz

Canllaw oed: 15+

Mae'r ddrama yn cynnwys portreadau o drais, marwolaeth, profedigaeth, bwlio ar-lein a golygfeydd o natur rywiol. Mae hefyd yn cynnwys cerddoriaeth uchel, synau sydyn a goleuadau sy'n fflachio.

Hyd y perfformiad: tua 2 awr a 10 munud (yn cynnwys un egwyl)

Perfformiadau Hygyrch

Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL): 29 Ionawr 2026, 7.30pm

Perfformiad gyda chapsiynau: 30 Ionawr 2026, 7.30pm

Perfformiad wedi’u sain ddisgrifio: 31 Ionawr 2026, 2.30pm

Taith Gyffwrdd: 31 Ionawr 2026, 1.15pm

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig. 

Dod yn aelod

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, grwpiau o 40+ gostyngiad o £7 (y 2 bris uchaf, Maw – Iau). Dyddiad talu: 27 Hydref 2025.

Trefnu ymweliad grŵp

16-30

Gostyngiad o £8 (pris 2-3, Maw - Iau). 

O DAN 16

Gostyngiad o £5 (2 bris uchaf, Maw - Iau). 

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon