Casgliad rhyfeddol o leisiau am un noson arbennig.
Profiad cerddoriaeth fyw sy'n esblygu yw Sirens, sy'n dathlu cysylltiad, cydweithio a grym gweddnewidiol cyd-ganu. Mae Sirens, sy'n cael ei gynnal gan Lisa Hannigan, gyda threfniannau a chyfarwyddyd cerddorol gan Theodora Byrne ac yn cael ei berfformio ochr yn ochr â'i thriawd, yn dod â chasgliad rhyfeddol o artistiaid benywaidd ynghyd ar gyfer noson unigryw o gyd-ganu ac archwilio sonig.
Wedi'i greu yn ystod preswylfa artistig yn Sounds from a Safe Harbour (Corc, Iwerddon), mae Sirens yn canolbwyntio ar gryfder, atseiniad ac agosatrwydd lleisiau menywod. Gan symud rhwng cyfansoddiadau gwreiddiol a gweithiau gan gyfansoddwyr benywaidd wedi'u hail-ddychmygu, mae'r perfformiad yn datblygu drwy harmonïau haenog, trefniannau cydweithredol ac eiliadau o wrando dwfn, gan greu awyrgylch sy'n agos atoch ac yn eang ar yr un pryd.
Amser Dechrau:
Drysau, 7.30pm
Sirens, 8pm
Hyd y perfformiad: Tua 1 awr a 30 munud (dim egwyl)
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed)
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
Rhybuddion: Gall y digwyddiad yma gynnwys cerddoriaeth uchel, goleuadau sy'n fflachio neu strôb, effeithiau mwg neu dawch, ac iaith gref.
Cynnig tocynnau
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Jasdeep Singh Degun x Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, na’r profiadau Sinema Realiti Rhithwir. Mae telerau ac amodau yn berthnasol.
Nodwch, ar gyfer sioeau Llais yn Theatr Donald Gordon mae'r cynnig ond ar gael ar seddi pris uchaf.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy