Ffans theatr gerdd, mae eich noson allan Nadoligaidd berffaith wedi cyrraedd.
Mae’r caneuon theatr gerdd gorau erioed yn cwrdd â’r clasuron Nadoligaidd mwyaf poblogaidd yn y sioe ysblennydd cabaret yma.
Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy wrth i ganeuon theatr eiconig, ffefrynnau Broadway a West End a chaneuon llwyddiannus Nadoligaidd gael eu cymysgu a’u lapio o dan do wedi’i orchuddio â thinsel. O faledi pwerus i gyd-ganu yn hwyl yr ŵyl, mae’r dathliad llawen yma o theatr gerdd a’r Nadolig yn addo rhywbeth i bawb.
Pa ganeuon fydd ar y rhestr olaf? Bydd rhaid i chi ymuno â ni i ffeindio allan. Gallwch chi ddisgwyl chwerthin, hiraeth, lleisiau arbennig, syrpreisys Nadoligaidd a digon o hwyl yr ŵyl i bara’r tymor cyfan.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref posibl
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret