Gan ymgorffori amrywiaeth eang o ddylanwadau cerddorol a genres, o jazz a lladin i glasurol ac yn fwy diweddar, electronig, mae sain Beraha yn rhydd ac yn llifo gyda phwyslais ar archwilio a mynegi.
Gan brofi cyfyngderau’r llais fel offeryn yn ddi-ofn, caiff ei sain ei wahaniaethu gan yr annisgwyl, gyda byrfyfyrio rhydd a chanu di-eiriau atgofus wrth ei wraidd.
Mae’r sioncrwydd, ysbryd anturus a dychymyg diderfyn yma i gyd yn ei nodi fel artist gwirioneddol gyffrous ac amryddawn gydag ystod enfawr o brofiad a chwmpas creadigol.
Mae wedi perfformio ac arwain gweithdai yn yr Unol Daleithiau, Ffrainc, Brwsel, yr Almaen, y Swistir, Lwcsembwrg, y Ffindir, Twrci, Nepal a ledled y DU, gan berfformio’n rheolaidd yn Llundain yn y lleoliadau mawr fel y Vortex, y National Theatre, Queen Elizabeth a Royal Festival Hall, Ronnie Scott’s, Pizza Express Jazz Club, Spice of Life, The 606 a lleoliadau sy’n cael eu rhedeg gan grwpiau Lopps ac E17jazz. Cafodd Brigitte ei henwebu fel ‘Canwr y Flwyddyn’ yng ngwobrau Jazz FM 2022, Gwobrau Parliamentary Jazz 2021 a 2022 a Gwobr Cyfansoddwr Ivors 2021.
Inside Out Trio James Chadwick
Y gitarydd James Chadwick
Y chwaraewr bas Danaidd Henrik Jensen
Y drymiwr arbennig Mark Whitlam
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+ (dim plant o dan 16 oed)
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret