Ymunwch â'r gantores o Lynebwy, Steph Webber, am noson o gerddoriaeth, adrodd straeon a disgleirdeb yn y lolfa cabaret groesawgar yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd.
Ar ôl graddio o Ysgol Theatr Arden, mae Steph wedi adeiladu gyrfa ryngwladol lwyddiannus yn perfformio ar lwyfannau ledled y byd, gan gynnwys serennu ar longau mordeithio moethus gyda'i sioeau ei hun. Bydd llawer yn ei hadnabod o The Voice UK, lle derbyniodd un o'r troeon cadair cyflymaf gan will.i.am a chael ei mentora gan Syr Tom Jones. Mae hi wedi ymddangos yn Theatr Newydd Caerdydd, gan serennu gyda David Hasselhoff yn Peter Pan, ac mae wedi dod yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd lleol ar ôl perfformio mewn pantomeim yno bum gwaith. Mae hefyd wedi ymddangos yn y sioe gerdd arobryn Tiger Bay yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Mae Glittering Nights yn llwyfan perffaith i lais pwerus, hiwmor a chynhesrwydd naturiol Steph mewn lleoliad cabaret hamddenol, gyda chaneuon poblogaidd gan artistiaid sy’n cynnwys Adele a Shirley Bassey, ochr yn ochr â ffefrynnau theatr gerdd a phinsiad o ganu gwlad. Gyda chyfeiliant byw ar y piano gan David Laugharne, mae hon yn argoeli i fod yn noson ddifyr llawn adloniant o gerddoriaeth fyw.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret