Mae’r wncl mwyaf blin yn y byd adloniant ‘nôl.
Yn syth o deithio’r byd (a llwyddo fel gŵr gwych a llys-dad i gwningod), mae dad-ddylanwadwr arweiniol y DU yn dychwelyd gyda sioe stand-yp newydd sbon. Gallwch chi ddisgwyl jôcs ffres, pregethau cynddeiriog a straeon chwerthinllyd – i gyd wedi’u cyflwyno gyda hiwmor cyflym, gwirion a thanseiliol nodweddiadol Tez.
Seren: Man Like Mobeen (BBC Three), Live at the Apollo (BBC Two), Fighting Talk (BBC Radio Five Live) ac awdur gwerthwyr gorau’r Sunday Times gyda The Secret Diary of a British Muslim Aged 13 ¾.
Yn teithio ledled Prydain, hydref 2026.
Archebwch yn gynnar. Byddwch chi’n casáu eich hun os byddwch chi’n colli allan.
Cyflwynir gan UTC Live.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret