Chwedl werin am gariad, colled a rhyng-gysylltrwydd popeth
Mae’r Derw Hynafol yn sefyll yn gryf yng Nghoedwig Baldor, yng ngwlad Earten. Mae wedi sefyll yno ers milenia, wedi’i wreiddio’n ddwfn i’r tir a phobl y goedwig. Ar y diwrnod yma ar drothwy’r gaeaf, mae pobl Baldor yn dathlu Cracio Mawr y Derw Hynafol.
Roedd Elspeth yn gobeithio mai dyma’r diwrnod y byddai Lars yn dychwelyd. Ond pan nad yw’n gwneud hynny, mae’n cael ei chymryd ar daith annisgwyl. Un na fydd byth yn ei hanghofio.
Mae Frozen Light yn eich croesawu i’w teyrnas ffantasi diweddaraf, lle rydyn ni’n darganfod mai’r hyn sydd wir yn ein maethu drwy’r nosweithiau hir yw ein capasiti ar gyfer cariad yn ei holl ffurfiau gwahanol.
Profiad aml-synhwyraidd i gynulleidfaoedd gydag anableddau dysgu dwys a lluosog a’u cymdeithion, sy’n cynnig y cyfle i ymgasglu a phrofi pŵer cyfunol rhannu straeon.
Drwy archebu tocynnau, rydych chi’n cydsynio i ni rannu eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn â Frozen Light Theatre at ddibenion hanfodol yn ymwneud â’r digwyddiad, fel cyfathrebu a chydlynu. Mae’r prosesu yma yn digwydd o dan ein buddiant dilys i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gyflwyno yn effeithiol. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer marchnata oni bai eich bod wedi rhoi cysyniad ar wahân.
Amser dechrau: 11am + 1:30pm
Canllaw oed: 13+
Hyd y perfformiad: 1 awr
Defnyddwyr Safonol a Chadeiriau Olwyn
£12
Cydymaith
Am ddim - gall cyfranogwyr archebu hyd at ddau docyn cydymaith i fynychu'r sioe gyda nhw. I archebu'r tocynnau hyn, dewiswch y math pris Cydymaith a nifer y cydymaith sydd eu hangen arnoch i fynychu gyda chi.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Os oes gennych unrhyw anghenion cymorth ac yr hoffech drafod hyn cyn archebu, cysylltwch â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid. Gallwch wneud hyn drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we, drwy anfon e-bost at tocynnau@wmc.org.uk neu drwy ein ffonio ar 029 2063 6464.
Gallwch ddod o hyd i fanylion oriau agor ein tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid drwy glicio yma.
Rhestr Aros:
Os yw pob perfformiad wedi gwerthu allan ond hoffech fynychu, anfonwch e-bost at waitinglist@wmc.org.uk gyda’ch manylion. Byddwn yn cysylltu â chi os daw tocynnau ar gael.