Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
VR CINEMA IMAGE

Sinema Realiti Rhithwir - Rhaglen yn ystod y Dydd

The Art of Change | Bodies of Water | Ôl Haunts

28 Medi - 12 Hydref 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London The Art of Change | Bodies of Water | Ôl Haunts {{::on_sale_date.label}} MM/DD/YYYY 15 event-3119

Sinema Realiti Rhithwir - Rhaglen yn ystod y Dydd

The Art of Change | Bodies of Water | Ôl Haunts

28 Medi - 12 Hydref 2026

Croeso i Sinema Realiti Rhithwir gyntaf Canolfan Mileniwm Cymru (rhaglen yn ystod y dydd) – cyfle cyffrous i gynulleidfaoedd brofi tri darn o waith realiti rhithwir rhyfeddol ar ôl ei gilydd.

THE ART OF CHANGE

Taith glyweledol hynod bersonol sy'n croesi amser a gofod yw The Art of Change. Gan ddefnyddio “dolen adborth” o nodiadau llais wedi’u recordio ar gyfer fersiynau o'r hunan yn y gorffennol a’r dyfodol, mae’n mapio eiliadau allweddol ar fap bywyd amlsynhwyraidd.

Mae'r prosiect yn plethu negeseuon wedi'u recordio ar dâp o wahanol gyfnodau bywyd o fewn y gerddoriaeth, gan adrodd stori menyw wrth iddi gyfathrebu â hi ei hunan ar draws amser. Mae'r daith yn datblygu drwy'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol, gan ddarlunio profiadau archdeipaidd sy'n gyfarwydd i lawer: unigedd mawreddog coeden fawr yn yr anialwch, her copa mynydd anorchfygol, dinodedd adeilad swyddfa cyffredin, a'r dyhead i ddianc, ynghyd â llefydd mwy haniaethol, dychmygol.

Mae The Art of Change yn myfyrio ar gamau bywyd a'u hadlais ar draws amser a gofod. Wedi'i baentio a'i animeiddio'n gyfan gwbl mewn realiti rhithwir gan ddefnyddio Quill, mae'n cynnig taith gerddorol arloesol. Drwy ofod rhithwir, trawsnewidiadau di-dor, ac amgylcheddau cynyddol gymhleth, mae'r prosiect ymdrochol hwn yn ailddiffinio sut rydyn ni'n gwerthfawrogi cerddoriaeth.

BYWGRAFFIAD ARTIST - SIMONE FOUGNIER A VINCENT ROOIJERS

Artist gweledol 38 oed o Ogledd yr Eidal yw Simone Fougnier, neu Funilab, a dreuliodd 15 mlynedd yn y diwydiant cerddoriaeth cyn darganfod realiti rhithwir a Quill yn 2017. Gweithiodd fel awdur, dylunydd a chyfarwyddwr ar gyfer y gyfres realiti rhithwir lwyddiannus 'Tales from Soda Island' a ddewiswyd ar gyfer gwobr y Gwaith Ymdrochol Gorau yn rhifyn 80 Biennale Fenis ac a enillodd wobr y Wenynen Aur am y Gwaith Realiti Rhithwir Gorau yng Ngŵyl Ffilmiau'r Mediterrane 2024.

Cynhyrchydd, cyfansoddwr ac offerynnwr sy'n byw yn yr Iseldiroedd yw Vincent Rooijers, neu DROELOE. Mae ei albwm gysyniadol unigol gyntaf, 'The Art of Change,' yn daith bersonol drwy fywyd – y gorffennol, y presennol a'r dyfodol – sy'n cynnwys synau sy'n meddwl ymlaen a chelf weledol syfrdanol.

CLODRESTR

Cyfarwyddwyr Simone Fougnier, Vincent Rooijers

Cynhyrchu

Funilab (Simone Fougnier)

Stiwdio Syro (Peter Ariet)

Droeloe (Vincent Rooijers)

Broken Levee (Megan Holland)

Sgript Vincent Rooijers

Golygydd Simone Fougnier

Cerddoriaeth Vincent Rooijers

Sain Vincent Rooijers, Peter Ariet

 

Cyfarwyddwr celf, dylunydd ac artist      

Simone Fougnier

Prif ddatblygwr Peter Ariet         

Tîm technegol Peter Ariet

BODIES OF WATER

Mae'r ffilm realiti rhithwir BODIES OF WATER yn eich gwahodd i ddal eich gwynt a gadael i ddŵr eich cludo a'ch trawsnewid yng nghwmni unigolion chwilfrydig. Pan ddaw'r nos, maen nhw'n goresgyn pwll nofio cyhoeddus. Mae'r cyrff dŵr hyn, wedi'u trochi yn y màs dyfrllyd, yn torri terfynau eu hamgylchedd naturiol ac yn trawsffurfio. Yna maen nhw'n cymryd rhan mewn dawns gyfoes sy'n eu datgelu'n wahanol. Mae'r amgylchedd dyfrol yn eu gwneud yn hyblyg ac yn ysgafn, ond hefyd yn fregus ac yn ymladdgar. Mae'r màs barddonol hwn, sy'n eang ac yn tagu, yn eu huno, eu gwahanu a'u nodweddu. Mae BODIES OF WATER yn archwilio trawsnewidiad cyrff dynol wrth ryngweithio â dŵr – cyfrwng hylifol a hyblyg sy'n gwrthsefyll ar yr un pryd. Mae'n mynd â chi o dan y dŵr i gael profiad ymdrochol sy'n datblygu'n ddawns gyfoes anghyffredin fyddai tu hwnt i gyrraedd fel arall.

BYWGRAFFIAD ARTIST – CHÉLANIE BEAUDIN-QUINTIN

Mae Chélanie Beaudin-Quintin yn cyfarwyddo prosiectau realiti ymestynnol, dawns a ffilmiau ffuglen. Mae ei ffilm realiti rhithwir gyntaf 21 GUN SALUTE (2020) yn portreadu'r clymau rhwng robotiaid a thynwyr ffrwydron. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar sgript ymdrochol L'ENFANT PERDU, ffilm realiti rhithwir animeiddiedig, ac eleni mae'n rhyddhau BODIES OF WATER (2024), ffilm realiti rhithwir danddwr sy'n cael ei dangos am y tro cyntaf yn Mostra 81, À BRAS-LE-CORPS, ffilm ddawns am brotestio, ac UNE MAISON DANS LA MAIN, opera realiti estynedig sy'n defnyddio cipluniau cyfeintiol. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yng Nghanada, y Swistir, Gwlad Belg, yr Eidal, yr Almaen a'r Unol Daleithiau.

CLODRESTR

Cyfarwyddwr Chélanie Beaudin-Quintin

Coreograffydd Carole Laurin-Beaucage.

Cynhyrchu Art et Essai (Jeanne-Marie Poulain, Laurence Wells, Irène Bessone, Line Sander Egede, Anaëlle Béglet, Rémi Dufresne).

Prif Gast Léonie Bélanger, Rachel Harris, Jimmy Chung, Rowan Mercille, Luca “Lazylegz” Patuelli, Emmanuel Jouthe, Emmanuelle Martin, Marie-Ève Quiliquot, Diana Léon, Lorenzo Serafino, Alida Esmail, Ciro Melgaço, Cara Roy.

Sgript Yn seiliedig yn fras ar sgript wreiddiol gan Oriane Morriet

Sinematograffydd Pierre Mainville, Emmanuel Béhier-Migeon – Aquamedias

Golygydd Chélanie Beaudin-Quintin Alain Baril – Stiwdio Post-Kopic

Cynllunydd Gwisgoedd Camille Thibault-Bédard

Cerddoriaeth Vincent Legault

Sain Bruno Bélanger – PRIM, Sabin Hudon, Léonardo Lamela

Tîm technegol Sylvain – PostPix Louis-Philippe, Benjamin Huppé – UP2VR

Ôl | Haunts

Mae’n 2006. Mewn tref fach yng Ngogledd Cymru, mae Morgan sy’n 16 oed yn sefyll ar ymyl ei ddyfodol, yn ein harwain ni drwy ei filltir sgwâr, cynefinoedd a nosweithiau sy’n aros yn hir ar ôl i’r bws olaf adael.

Y flwyddyn yw 2006, Tony Blair yw’r Prif Weinidog, mae Twitter newydd gael ei lansio, ac mae pobl ifanc yn dod i’r arfer yn gyflym â byd lle mae’r cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn dechrau cymryd gafael. Mae Morgan, sy’n 16 oed ac yn cael ei leisio gan Steffan Donnelly (Theatr Cymru) a Callum Scott Howells (It's a Sin), yn ceisio deall ble mae’n perthyn, gyda’i daith wedi’i gosod yn erbyn cefndir cymuned yn Llanberis ar droed Eryri.

Wedi’i gyfarwyddo gan Tom Chetwode Barton a Lucy Hammond (Monoliths, Traitor) gyda datblygiad cysyniad ymdrochol gan Dreaming Methods, cawn ein cludo i amser lle mae bydoedd analog a digidol yn gwrthdaro, gan rannu eiliadau o fywyd Morgan wrth iddo deithio drwy’r hynt defod newid byd barddonol yma.

Wedi’i greu mewn cydweithrediad ag Archif Ddarlledu Cymru a Museum of Youth Culture, mae Ôl yn brofiad VR i ddefnyddiwr unigol sy’n cydblethu olion gweledol o dirwedd â fideos archif a straeon creadigol.

Gyda cherddoriaeth gan artistiaid Cymreig gan gynnwys Super Furry Animals, John Cale a High Contrast.

Mae Ôl yn bosibl diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri ac mae'n gyd-gynhyrchiad rhwng Canolfan Mileniwm Cymru, Pilot Theatre a Dreaming Methods mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Museum of Youth Culture.

BYWGRAFFIADAU ARTISTIAID – LUCY HAMILTON, TOM CHETWODE-BARTON A DREAMING METHODS

Lucy Hamilton

Cyfarwyddwr Ymdrochol yw Lucy sy’n byw yng ngogledd Swydd Efrog. Mae ei phrosiectau diweddar yn cynnwys ‘Ôl | Haunts’ (2026), profiad VR Cymraeg a Saesneg am berson ifanc cwiar yn sôn am nosweithiau allan yng nghanol unman, ‘Monoliths’ (Gŵyl Ffilmiau Llundain BFI, 2022, Sheffield Docfest 2022, Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Melbourne 2022) yn dathlu lleisiau menywod gogledd Lloegr a’r dirwedd ogleddol a’r darn VR o 2019 ‘Traitor’ sy’n cyfuno realiti rhithwir, ffilm ac actor byw a gafodd ei ddangos am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth yng Ngŵyl Ffilmiau Tribeca 2019.

Tomos Chetwode-Barton

Mae Tom yn awdur-cyfarwyddwr o Gymru sy’n byw yn Ynys Môn, sy’n archwilio themâu dosbarth, diwylliant rhanbarthol, mytholeg a rhywedd. Cawsant eu dewis ar gyfer cynllun mentoriaeth BAFTA x BFI flare yn 2020, a nawr maen nhw’n datblygu dau ddarn o waith Cymraeg gyda Ffilm Cymru Wales ac maen nhw wedi cyfarwyddo rhaglenni dogfen wedi’u brandio ar gyfer cleientiaid sy’n amrywio o Smirnoff i The Running Channel.

Dreaming Methods – Judi Alston ac Andy Campbell

Judi yw Cyd-Gyfarwyddwr a Chynhyrchydd Creadigol Dreaming Methods ac mae’n Brif Swyddog Gweithredol y sefydliad celfyddydol arobryn One to One Development Trust. Fel artist digidol a gwneuthurwr ffilmiau, mae wedi bod yn cynhyrchu ffilmiau, creu ffuglen ddigidol gydweithredol ac ysgrifennu ar gyfer gemau fideo yn seiliedig ar naratif ers dros ddau ddegawd.

Fel awdur, datblygwr ac artist digidol arloesol, mae Andy wedi bod yn gweithio wrth groestoriad gemau, adrodd straeon a’r cyfryngau rhyngweithiol ers 1999 ac mae wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Digidol y sefydliad celfyddydol arloesol One to One Development Trust ers dros 20 mlynedd. 

CLODRESTR

Cysyniad gan Lucy Hammond

Ysgrifennwyd gan Tom Chetwode-Barton

Cyfarwyddwyd gan Tom Chetwode-Barton a Lucy Hammond

Cynhyrchydd Gweithredol ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru
David Massey

Cynhyrchydd Creadigol Gweithredol ar gyfer Dreaming Methods
Judi Alston ac Andy Campbell

Arweinydd Creadigol Ymdrochol a Datblygu’r Cysyniad
Dreaming Methods – Judi Alston ac Andy Campbell

Wedi’i adrodd gan
Steffan Donnelly a Callum Scott Howells

Peiriannydd Sain ar gyfer adrodd
Matt Collins

Recordiwyd yr adrodd yn Stiwdios Tŷ Cerdd

Goruchwyliwr Cerddoriaeth Tin Drum Music

Mae Ôl yn gyd-gynhyrchiad rhwng Canolfan Mileniwm Cymru, Pilot Theatre, Dreaming Methods mewn cydweithrediad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Cerddoriaeth

“Slow Life”
Recordiwyd gan Super Furry Animals
Trwy garedigrwydd BMG Rights Management (UK) Limited, Cwmni BMG (P) 2003
© Cyhoeddwyd gan KMR Holdings L.P. Gweinyddwyd gan Kobalt Music Publishing Limited
Defnyddiwyd gyda chaniatâd. Cedwir pob hawl.

“Dyddiau Braf”
Perfformiwyd gan Llwybr Llaethog
Ysgrifennwyd gan John Griffiths a Kevin Ford
Cyhoeddwyd gan Reiat Music / Westbury Music Ltd
Trwyddedwyd drwy garedigrwydd Llwybr Llaethog

"Return Of Forever”
Perfformiwyd gan High Contrast
Ysgrifennwyd gan Lincoln Barrett, Cyhoeddwyd gan Peermusic UK Ltd
Trwyddedwyd drwy garedigrwydd Highly Contrasting

"Szamár Madár”
Perfformiwyd gan Venetian Snares
Ysgrifennwyd gan Aaron Funk, Cyhoeddwyd gan Mute Song Ltd
Trwyddedwyd drwy garedigrwydd Planet Mu

“Antarctica Starts Here”
Ysgrifennwyd a pherfformiwyd gan John Davies Cale
Cyhoeddwyd gan Universal/Island Music Ltd. ar ran Garnant Music
Trwyddedwyd drwy garedigrwydd Domino Recording Company Limited (, PRS)

“Gwn Mi Wn”
Ysgrifennwyd a Pherfformiwyd gan Gruff Rhys
Trwyddedwyd drwy garedigrwydd Gruff Rhys

Deunydd Archif drwy garedigrwydd
BBC, ITV, HTV, S4C a Museum of Youth Culture

Tynnwyd y lluniau yn yr ystafell wely gan Michelle Sank, Ellie Ramsden a Catherine Booker. Cyflwynwyd o Ymgyrch Grown up in Britain y Museum of Youth Culture gan Tamir Pettet.

Dylunydd Arddangosfa
Fran Norburn

Gwaith ymchwil archifol a thrwyddedu ar gyfer y prosiect:

Rhun M. Jones
Swyddog Ymgysylltu Clyweledol a Chreadigol - Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ywain Tomos
Swyddog Cyfranogi (Dehongli) - Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Jayne Day
Swyddog Hawliau a Thrwyddedi - Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Diolchiadau arbennig
Sophie Urquhart a Dominic Goodman yn Tin Drum, Dean Hinchliffe yn Dreaming Methods, Lisa Der Weduwe, Lydia Durnall, Abi Fitzgerald, Bethan Hancock, Rhodri ap Dyfrig, Dafydd Tudur, a Ffion Wynn Morris.

Logos
Canolfan Mileniwm Cymru, Pilot Theatre, Dreaming Methods, Archif Ddarlledu Cymru, Museum of Youth Culture, wedi'i gefnog gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Logo Cyngor Celfyddydau Cymru 

RHYBUDD CYNNWYS

Mae'r profiad hwn yn cynnwys noethni amlwg.

Noder, nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cael adwaith negyddol i Realiti Rhithwir. Fodd bynnag, gall realiti rhithwir achosi dryswch i unigolion sy'n niwroamrywiol, sydd ag amhariad ar eu clyw neu eu golwg, neu sy'n profi fertigo, epilepsi, pendro, ffitiau, salwch symud neu lewygu.

Hyd y profiad: 35 munud

Amser dechrau:

Llun - Sul: 12pm, 1pm, 2pm, 3pm, 4pm

Capasiti: 15

Canllaw Oed: 12+

Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Hygyrchedd: Mae hwn yn brofiad ar eich eistedd; bydd mynediad i gadeiriau olwyn, ond mae hyn yn gyfyngedig fesul slot amser.

Iaith: Cymraeg a Saesneg

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Beth alla i ei ddisgwyl o'r profiad?

Mae Trioleg Just For You yn rhan o'n sinema realiti rhithwir; bydd y tair ffilm fer Realiti Rhithwir yn cael eu chwarae un ar ôl y llall am gyfanswm o 33 munud; ar gyfer y profiad hwn bydd gofyn i chi wisgo penset realiti rhithwir.

Pa mor hir yw’r profiad?

Mae'r profiad yn para tua 33 munud.

Pa offer sydd ei angen i gymryd rhan yn y profiad?

Defnyddir clustffonau a phensetiau Realiti Rhithwir yn ystod y profiad hwn.

Oes staff wrth law drwy gydol y profiad?

Oes, bydd ein gwesteiwyr ar gael i’ch tywys a’ch cefnogi drwy’r profiad cyfan.

Ydy’r profiad yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig?

Ydy, mae'r profiad yn hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig; byddwch yn aros ar eich eistedd drwyddo draw a does dim disgwyl fawr ddim rhyngweithio, neu ddim o gwbl, drwyddo draw. Fodd bynnag, mae gofyn i ymwelwyr â'r profiad wisgo penset Realiti Rhithwir. Cysylltwch â ni cyn prynu eich tocyn(nau) os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am hyn.

Ydy’r profiad yn hygyrch i blant?

Nac ydy; mae gan y profiad hwn gyfyngiad oedran o 16+  

Profiadau Ymdrochol

Gweld popeth
Evolver_On-Sale-Assets_Thumbnail_ARTWORK_AG100626

Evolver

wedi’i gyfarwyddo gan Marshmallow Laser Feast

0ef180e6-ca87-48fc-9f5f-994db5ae0d0f

Sinema Realiti Rhithwir – Rhaglen gyda'r Nos

Just For You Trilogy

VR CINEMA IMAGE

Sinema Realiti Rhithwir - Rhaglen yn ystod y Dydd

The Art of Change | Bodies of Water | Ôl Haunts

Framerate_On-Sale-Assets_Thumbnail_ARTWORK_AG100626

FRAMERATE: Pulse Of The Earth

gan ScanLAB Projects