Mae’r sioe gerdd lwyddiannus ac arobryn The Bodyguard ‘nôl ar gyfer Taith ledled y DU a Rhyngwladol yn ystod 2025.
Mae'r sioe gerdd arobryn ryngwladol The Bodyguard 'nôl! Gyda'r actor blaenllaw rhyngwladol Sidonie Smith* (Sister Act, Chicago, Jesus Christ Superstar) fel Rachel Marron, Adam Garcia (Chitty Chitty Bang Bang, Wicked, Coyote Ugly) fel Frank Farmer a Matt Milburn (Coronation Street, Hollyoaks) fel Sy Spector.
“the hottest ticket in town”
10. Sidonie Smith, Adam Garcia and Cast. Credit Paul Coltas
2. Adam Garcia. Credit Paul Coltas
6.a. Sidonie Smith and Ensemble cropped. Credit Paul Coltas
1. Sidonie Smith and Adam Garcia. Credit Paul Coltas
4. Sasha Monique as Nicky Marron. Credit Paul Coltas
5.a. Sidonie Smith & Cast cropped. Credit Paul Coltas
3. Matt Milburn as Sy Spector. Credit Paul Coltas
Mae Frank Farmer, cyn-asiant y Gwasanaeth Cudd sydd wedi troi’n warchodwr, yn cael ei gyflogi i ddiogelu’r seren Rachel Marron rhag stelciwr anhysbys. Mae’r ddau yn disgwyl bod wrth y llyw – a dydyn nhw ddim yn disgwyl syrthio mewn cariad.
Mae The Bodyguard, drama gyffrous a hynod ramantus, yn cynnwys llu o glasuron cymhellol gan gynnwys Queen of the Night, So Emotional, One Moment in Time, Saving All My Love, Run to You, I Have Nothing, Greatest Love Of All, Million Dollar Bill, I Wanna Dance With Somebody ac un o’r caneuon gorau erioed – I Will Always Love You.
“YOU GO IN HUMMING THE TUNES, YOU COME OUT WHOOPING THEM!”
Canllaw oed: 10+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Rhybuddion: Mae goleuadau sy'n fflachio (gan gynnwys goleuadau strobio) ac effeithiau sain uchel (gan gynnwys ergydion gwn) yn ymddangos yn y cynhyrchiad yma.
Amser cychwyn:
Llun – Sad 7.30pm
Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys un egwyl)
*Bydd rhan Rachel Marron yn cael ei chwarae gan Mireia Mambo mewn perfformiadau penodol. Gall amserlen y cast a pherfformiadau newid heb rybudd. Gall y cast a’r amserlen berfformio newid heb rybudd. Weithiau bydd salwch neu wyliau’n codi, felly nid oes modd i gynhyrchwyr warantu bod unrhyw un o’r artistiaid yn ymddangos ym mhob perfformiad.
Perfformiadau Hygyrch
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL): 23 Gorffennaf 2026, 7.30pm
Perfformiad gyda chapsiynau: 24 Gorffennaf 2026, 7.30pm
Perfformiad wedi’u sain ddisgrifio: 25 Gorffennaf 2026, 2.30pm
Teithiau Cyffwrdd: 25 Gorffennaf 2026, 1.15pm
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, nifer cyfyngedig o lefydd). Dod yn aelod.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 (2 bris uchaf, Llun – Gwener). Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd