Seithawd penigamp yn sianelu ysbryd jazz Harlem, Kansas City a New Orleans yn yr 1920-30au
P’un a ydyn nhw y neu sioe cabaret llawn canu a dawnsio lwyddianus neu’n difyrru cynulleidfaoedd gwyliau gyda’u repertoire anferth a’u caneuon gwreiddiol, mae The Easy Rollers yn seithawd sy’n ymgorffori ysbryd enwog a hyfedredd llwyr y byd jazz Prydeinig heddiw ac yn dod ag ef yn syth ‘nôl i wreiddiau’r gerddoriaeth yn Harlem, Kansas City a New Orleans yn yr 1920-30au.
“A slick, tightly choreographed hour of sizzling speakeasy from a melodious young septet.”
Wedi’u harwain gan yr hudolus Dani Sicari, y mae ei llais peiriant amser yn eich atgoffa o’r cantorion cynnar gwych fel Helen Kane a Ruth Etting, mae The Easy Rollers wedi sefydlu enw da am gyflwyno perfformiadau sy’n sianelu dynamigrwydd yn y foment yr Oes Jazz ar frig ei mawredd diwylliannol. Yn codi o’u cariad at draddodiad, maen nhw’n ymfalchïo mewn cyfuno dull cydwybodol o fod yn awthentig a’u cenhadaeth i sicrhau bod yr oes jazz fyrlymol byth yn cael ei chyflwyno fel darn amgueddfa hiraethus yn unig.
THE EASY ROLLERS
Dani Sicari - Llais
Alex Hill - Piano
Tom Sharp - Trwmped
Jamie Stockbridge – Sacsoffon a Chlarinét
James Girling – Gitâr
Sam Jackson – Bas Dwbl
Matt Brown – Drymia
Amser dechrau: 7pm, drysau 6pm
Oed: 16+ (dim plant o dan 16 oed)
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret