Haia, Caerdydd!
Camwch i mewn i'r Pearl Revue; noson ddisglair o cabaret, amrywiaeth a bwrlésg, wedi'i glymu gyda'i gilydd gyda thei bô!
Mae pob sioe yn uno lein-yp yn llawn sêr syrcas, brenhiniaeth drag, eiconau bwrlésg, swynwyr vaudeville, sioeau ochr dewr, comedïwyr a mwy. Meddyliwch am y Cabaret Avengers - gyda mwy o rhinestones a dillad isaf tynnach! Dopamin gwarantedig, bob tro.
Yn ymuno ag Oola Pearl y mis hwn mae seren bwrlésg enwog y DU Fou Fou Kaboom, Aaron Jones – The Rockstar Magician, y syfrdanol a gosgeiddig Alicia Domenica, ynghyd â mwy o artistiaid i'w cyhoeddi.
Gallwch chi ddisgwyl sbarcl, gwiriondeb a’r maint cywir o ddrygioni. Mynnwch eich tocyn ac ymunwch â ni am noson na fyddwch chi'n ei anghofio.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref a noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret