Roedd Arron ar Britain’s Got Talent… Nawr mae e eisiau DIAL!
Ymunwch â Chonsuriwr Roc West End Llundain Arron Jones wrth iddo dalu’n ôl i Simon Cowell drwy berfformio tric hud sydd mor anhygoel bydd e’n cyrraedd rhif 1 yn siartiau sengl gwledydd Prydain. Ydy hi’n bosib? Nid heb eich help chi!
Mae The Rock & Roll Magic Show yn LLAWN dop o GOMEDI, CERDDORIAETH FYW ac wrth gwrs HUD A LLEDRITH, i gyd wedi’u perfformio gan Gonsuriwr Gorau Roc a Rôl ei hun.
Gyda pharodïau hudol o’ch hoff ganeuon gan Queen, Journey, Twisted Sister, Joan and the Jetts, Billy Joel a llawer mwy.
Dyw rhyw, cyffuriau a roc a rôl erioed wedi bod mor anhygoel!
"The Perfect Blend of Music & Magic"
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iath Gref, goladau flachio
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret