Mae 11 mlynedd wedi mynd heibio ers i ymerodraeth Rose chwalu a bu’n rhaid i’n hoff deulu cyfoethog ddod yn dwpsod tref fach…
Dros y 6 mlynedd canlynol, cerfiodd pobl Schitt’s Creek le y neu – ac ein – calonnau, ac mae’n amser i’r cymeriadau eiconig yma gael eu hanfarwoli mewn DRAG!
Rydyn ni WRTH EIN BODD i fod yn dod â The Schitt’s Show i Ganolfan Mileniwm Cymru, yn llawn sêr drag a cabaret lleol, yn portreadu cymeriadau mwyaf ffôl ein hoff sitcom ciwar fel na welsoch erioed o’r blaen… A fydd Moira yn llwyddo? A fydd David yn dod o hyd i gariad? A fydd Alexis yn graddio o’r coleg?!? A fydd brain???? Archebwch eich ystafell yn y Rosebud Motel NAWR, ystafelloedd gwag tra ein bod nhw’n para.
Gyda pherfformiadau gan Me The Drag Queen, yn ogystal â brenhines sioeau thema Carrot a brenin anhrefn ein calonnau Fabio Lezonli, dydych chi ddim eisiau colli hwn. Lein-yp llawn i’w gyhoeddi’n fuan, cadwch lygad ar @theschittsshowcabaret ar Instagram am gyhoeddiadau pellach…
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret