Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Spy Who Came In From The Cold

28 Ebrill – 2 Mai 2026

Theatr Donald Gordon

Y nofel ysbïo a newidiodd bopeth. Nawr yn fyw ar y llwyfan.

Am y tro cyntaf erioed, mae nofel gan John le Carré – meistr cydnabyddedig y genre ysbïo modern y mae ei lyfrau yn cynnwys Tinker, Tailor, Soldier, Spy a The Night Manager – yn dod yn fyw mewn addasiad llwyfan cyffrous.

Gyda Ralf Little yn serennu (The Royle Family, Death In Paradise), mae The Spy Who Came In From The Cold yn daith afaelgar drwy dir niwlog ysbïo, twyll a chyfaddawd moesol y Rhyfel Oer. 

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

‘This slick and stylish production is meticulously mounted by Jeremy Herrin'

The i

Mae’r swyddog cudd-wybodaeth Prydeinig Alec Leamas yn flinedig, wedi caledu ac yn barod i ddod i mewn o’r oerfel. Ond pan mae Control, Pennaeth y ‘Circus’ yn cyflwyno un genhadaeth olaf – peryglus, twyllodrus a hynod bersonol – mae Leamas yn cytuno i aros yn y gêm. Ar ôl cael ei anfon i diriogaeth y gelyn, mae ei gredau yn cael eu profi a’i amddiffyniadau yn cael eu torri gan Liz Gold, llyfrgellydd tawel ond heriog y mae ei thosturi yn bygwth toddi ei galon rewllyd. A beth am y meistr ysbïwr profiadol George Smiley? Beth yw ei rôl e yn yr ymgyrch?  

Yn dilyn rhediad yn Chichester Festival Theatre a werthodd allan ac yn syth o'r West End, mae’r ddrama newydd gafaelgar yma a ysgrifennwyd gan David Eldridge (Beginning, Middle, End) ac a gyfarwyddwyd gan Jeremy Herrin (Grace Pervades, People, Places & Things) yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru am wythnos yn unig. 

Canllaw oed: 12+ (ni chaniateir plant o dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Rhybuddion: Mae'r cynhyrchiad yma yn cynnwys iaith gref a bychanol a oedd yn gyffredin yn ystod y cyfnod, gan gynnwys gwrthsemitiaeth, a phortreadau o drais gan gynnwys artaith ac ergydion gwn. 

Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 10 munud (yn cynnwys un egwyl)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf, nifer cyfyngedig). Aelodaeth

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, Grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, Grwpiau o 40+ gostyngiad o £7 (2 bris uchaf, Maw – Iau). Trefnu ymweliad grŵp.

16–30

Gostyngiad o £8 (prisiau 2–3, Maw – Iau). 

O dan 16 

Gostyngiad o £4 (2 bris uchaf, Maw – Iau).

Mae pob cynnig yn seiliedig ar ddyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon