Mae Tori Scott yn dod â’i sioe newydd sbon ddi-flewyn-ar-dafod, The Audacity, i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Gan fyfyrio ar y profiad o symud o UDA i’r Deyrnas Unedig, bydd Tori yn mynd â chi ar reid gerddorol drwy sioc ddiwylliannol, cydweddu, dêts trychinebus a dewisiadau bywyd dadleuol iawn. Mae The Audacity yn dathlu dechrau eto, siarad i fyny, gwario eich cynilion a dwyn caneuon gan bobl fydd siŵr o fod ddim yn sylwi. Mae Tori yn cyflwyno straeon pwerus ac ysgafn yn beth mae Theatre Tonic wedi’i ddisgrifio fel “the sleekiest cabaret I’ve ever seen!”
This is the epitome of what cabaret should be about. She bares her soul enough to never be maudlin, but we feel we’ve got to know her….I’d give her six stars if I could.
Yn fwyaf diweddar, ymddangosodd Tori yn Guys and Dolls yn y Bridge Theatre yn Llundain, yn chwarae General Cartwright a Good Time Charley Bernstein ac yn nhaith y Deyrnas Unedig o The Cher Show. Cafodd ei sioe yng ngŵyl Ymylol Caeredin, Tori Scott is Thirsty! ei henwebu am y Sioe Cabaret Orau gan Broadway World. Mae wedi teithio’n rhyngwladol gyda’i sioeau unigol llwyddiannus a rhannu’r llwyfan gyda sêr fel enillydd RuPaul’s Drag Race Bianca Del Rio, Cheyenne Jackson o Broadway a’r teledu, a La Voix o Drag Race UK.
Tori is just the tip of a goldmine of material, and it’s a wonderful time to spend with an infectiously entertaining performer. Give us more, Tori.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 16+ (dim plant o dan 16 oed)
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret