Bil triphlyg sy'n cynnwys rhai o'r cerddorion arbrofol gorau yn y DU.
Mae Tristwch y Fenywod yn fand tair menyw cwiar sy’n chwarae cerddoriaeth gothig roc avant garde drwy gyfuno offerynnau gwerin, roc a digidol; gyda geiriau uniaith Gymraeg. Mae cariad a chwant saffig, tywyllwch difrodol, gofid/dathliad gwleidyddol ac amgylcheddol, rhamant seico-ddaearyddol, cyfriniaeth baganaidd, archwiliadau delweddaidd o hanes a chwedlau Celtaidd, rhithweledigaethau ac amrywiadau pellach o synfyfyrdod yn cael eu consurio yn sŵn Tristwch y Fenywod. Cafodd y band eu ffurfio yn 2022 yn Leeds, ble maent wedi’u seilio’n bennaf.
Mae Joanne Robertson yn gerddor a pheintiwr. Mae’n cydweithio gyda’i ffrindiau yn aml, yn fwyaf diweddar gyda Dean Blunt ar Backstage Raver a Sidsel Meineche Hansen ar Alien Baby.
Mae ei cherddoriaeth a’i phaentiadau yn dod o gyfnodau byrfyfyr o fynegi, a chafodd ei albwm Blurrr, a gafodd ei ryddhau drwy AD 93 yn 2025 i glod gan y beirniaid, ei ysgrifennu rhwng sesiynau paentio ac wrth fagu ei phlentyn. Gyda greddf lac a chwareus, mae llais a gitâr Robertson yn llithro a sibrwd ar draws y record, gan feithrin agosrwydd dwys wrth i emosiynau anhysbys godi.
Mae Jasper Llewellyn yn aelod sefydlol o’r band ‘caroline’. Mae bellach yn chwarae ei sioeau cyntaf o dan ei enw ei hun.
Canllaw oed: dim plant dan 2 oed
Nodwch fod rhaid i bobl o dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu hŷn.
Rhybuddion: Gall y digwyddiad yma gynnwys cerddoriaeth uchel, goleuadau sy'n fflachio neu strôb ac effeithiau mwg neu dawch.
Amser dechrau:
Jasper Llewellyn, 6.30pm
Joanna Robertson, 7.30pm
Tristwch y Fenywod, 8.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 3 awr (gan gynnwys dau egwyl)
Bydd amseroedd union yn dibynnu ar hyd cyfnodau newid rhwng perfformiadau
CYNNIG TOCYNNAU
Prynwch docynnau ar gyfer 2 ddigwyddiad Llais i arbed 10%.
Prynwch docynnau ar gyfer 3 digwyddiad Llais i arbed 15%.
I fanteisio ar y cynnig ar-lein, rhaid i nifer y tocynnau ar gyfer pob digwyddiad fod yr un peth. Caiff y cynnig ei ychwanegu at eich basged. Nid yw’r cynnig yma yn cynnwys y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Jasdeep Singh Degun x BBC NOW a’r profiadau ymdrochol yn ein Sinema VR.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddyraniadau ac argaeledd.
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy