Anghofiwch eira. Anghofiwch dinsel. Anghofiwch Mariah yn cuddio yn y cysgodion…
Eleni, rydyn ni’n binio’r addurniadau ac yn plymio yn bendramwnwgl i mewn i ffantasi haf Awstraliaidd wedi’i drochi â gliter, yn diferu â chwys ac yn llawn haul.
Croeso i wrthdrawiad anhrefnus o drag, cerddoriaeth fyw a gwrthryfel Nadoligaidd dryslyd wrth i House of Deviant a Vaguely Artistic gyflwyno sioe sydd mor bell o’r Nadolig ag sy’n bosib fod.
Dychmygwch:
- Barbeciw yn lle cinio rhost
- Gwisg nofio yn lle siwmperi hyll
- Tywod, chwys a secwinau yn lle plu eira
- Cangarŵod, anhrefn a dim egni Tawel Nos o gwbl
Mae breninesau House of Deviant yn dod â’u disgleirdeb drag anarchaidd nodweddiadol – yn fwy nag erioed – tra bod Vaguely Artistic yn darparu trac sain i’r gwallgofrwydd gyda’u sain byw digamsyniol sy’n chwalu genres.
Gallwch chi ddisgwyl perfformiadau gwarthus, troadau annisgwyl, fersiynau hurt o draddodiadau “Nadoligaidd”, a mwy o gamp na pharc carafanau yn y Berfeddwlad.
Nid sioe Nadolig ‘mo hon.
Dyma rith gwres mawr mewn sodlau.
Felly dewch â’ch sbectol haul, gwisgwch eich SPF (neu gliter) ac ymunwch â ni am noson o:
- Drag
- Cerddoriaeth fyw
- Gwyrni pur
- A dim llawenydd Nadoligaidd o gwbl
The Vaguely Deviant Not Even Remotely Christmas Australian Summer Show
— achos pwy ddywedodd fod rhaid i fis Rhagfyr fod yn oer, clud neu’n briodol?
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
RHEOLAU TŶ CABARET
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret