Camwch i mewn i ddathliad agos atoch ac acwstig o gerddoriaeth ddiamser ABBA.
Mae ABBA Unplugged yn dwyn ynghyd pedwar canwr syfrdanol, wedi’u cefnogi gan sain gynnes piano a gitâr, i gyflwyno caneuon mwyaf llwyddiannus y grŵp fel nad ydych chi erioed wedi’u clywed o’r blaen. Wedi’u symleiddio a’u hailddychmygu, mae’r sioe yma’n canolbwyntio ar y cerddgarwch pur a’r harmonïau cywrain a wnaeth ABBA yn llwyddiant byd-eang. O sain dwymgalon The Winner Takes It All a Chiquitita i lawenydd heintus Dancing Queen a Mamma Mia, mae pob trefniant yn deyrnged ffres ac emosiynol i brydferthwch eu sain wreiddiol.
Amser dechrau: 8.00pm, 7.00pm drysau
Oed: Yn addas i bobl 18+ oed.
Rhybuddion: Yn cynnwys iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.