Yn dilyn llwyddiant mawr a sioeau a werthodd pob tocyn, mae VOX Collective yn dod â’u noson sy’n anrhydeddu Adele i Gymru am y tro cyntaf.
Bydd y noson fythgofiadwy yma yn cynnwys rhai o’i chaneuon mwyaf poblogaidd o’r albymau 19, 21 a 25, ynghyd â detholiad o draciau o’i pherfformiadau byw – i gyd wedi’u perfformio gyda brwdfrydedd a rhagoriaeth leisiol nodweddiadol VOX Collective.
Grŵp o gerddorion sesiwn profiadol yw VOX Collective, sy’n cydweithio i greu adloniant gwreiddiol, egnïol a dymunol.
Mae’r grŵp wedi perfformio amrywiaeth o sioeau sy’n anrhydeddu actau cerddorol fel Carole King, Carpenters, ABBA, Madonna ac Outkast, ac maen nhw wedi gwerthu pob tocyn ar gyfer nifer o sioeau ledled Lloegr, gan gynnwys y Jazz Café yn Lloegr.
VOX Collective:
Katrín Ýr – Prif Lais
Sam Wilson – Allweddellau
Dion Rushe – Gitâr/Llais Cefndir
Ollie Sears – Drymiau/Llais Cefndir
I’w gadarnhau – Bas
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+ (dim plant o dan 16 oed)
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret