VOX Collective yn cyflwyno: Top of the World – The Best of Carpenters
Mae VOX Collective wrth eu bodd i ddod â’u sioe fyw anhygoel Top of the World – The Best of Carpenters i Gymru am y tro cyntaf. Yn dathlu cerddoriaeth ddiamser y ddeuawd brawd a chwaer enwog gyda pherfformiad band byw syfrdanol.
Mwynhewch noson dwymgalon ac agos atoch gyda llais cain Gemma Cox, wrth i VOX Collective ailymweld â chaneuon mwyaf llwyddiannus y Carpenters – gan gynnwys Superstar, Rainy Days and Mondays, We’ve Only Just Begun, Yesterday Once More, (They Long to Be) Close to You a llawer mwy.
Gyda threfniannau byw pwrpasol, harmonïau hyfryd a sylw ffyddlon at sain nodweddiadol y Carpenters, mae’r perfformiad yma yn addo noson o hiraeth pur a phrydferthwch cerddorol.
Gemma Cox – Llais
Katrin Ýr – Llais cefndir
Sam Wilson – Allweddellau/Llais cefndir
Jon Cox – Bas/Llais cefndir
Ollie Sears – Drymiau/Llais cefndir
Dion Rushe – Gitâr
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 16+ (dim plant o dan 16 oed)
Rhybudd: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Darllenwch reolau'r tŷ sy'n helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn cael amser gwych yn Cabaret