Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
2000x923 - Noyo Desktop

Y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Neuadd Hoddinott Y BBC

30 Gorffennaf 2026

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC {{::on_sale_date.label}} Neuadd Hoddinott Y BBC MM/DD/YYYY 15 event-2961

Hoddinott Hall

Y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

30 Gorffennaf 2026

Neuadd Hoddinott Y BBC

Byddwch yn barod am noson llawn egni a dyfeisgarwch. Bydd hyd at ugain o gerddorion ifanc anabl a heb fod yn anabl o’r Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (NOYO) yn ymuno â chwaraewyr gwadd o BBC NOW mewn cyngerdd sy’n ailddiffinio beth gall cerddorfa fodern fod.

Gallwch ddisgwyl cymysgedd syfrdanol o offerynnau sy’n creu seinfyd beiddgar a ffres – o offerynnau llinynnol a phres i acordion, telyn a seiniau electronig. Peidiwch â cholli eu perfformiad bywiog o ddetholiadau o’r Pedwar Tymor gan Vivaldi, a’u perfformiad llawen o Juba Dance gan Florence Price, gyda sain unigryw’r chwiban Swanee! Bydd y perfformiad o ddarn gwefreiddiol Michael Betteridge, Soaring Through Sparks, yn cynnwys yr unawdydd Alessandro Vazzana, sy’n chwarae’r Clarion (offeryn electronig) gan ddefnyddio symudiad y pen.

Bydd hwn yn gyngerdd llawn enaid, gyda NOYO yn perfformio Barriers gan Oliver Cross, teyrnged deimladwy i gerddorion anabl. O dan y thema #EinCerddorfaNi, mae gan bawb ran i’w chwarae, ar y llwyfan ac yn y gynulleidfa, wrth i gerddorion ddatgelu comisiwn newydd ar y cyd â Charlotte Harding, wedi’i greu mewn partneriaeth â’r BBC.

Mae’r cyngerdd hamddenol hwn yn addas i bawb, gan gynnwys cynulleidfaoedd niwrowahanol ac anabl, a theuluoedd.

 

Rhaglen

Y Pedwar Tymor (Gwanwyn) - Vivaldi (trefniant Rhian Davies)

Y Pedwar Tymor (Hydref) - Vivaldi (trefniant Ellen O’Brien)

Y Pedwar Tymor (Gaeaf) - Vivaldi (trefniant Ellen O’Brien)

Juba Dance - Florence Price (trefniant Rhian Davies)

Barriers - Oliver Cross (trefniant Liam Taylor-West)

Soaring Through Sparks - Michael Betteridge (trefniant Julia Koelmans)

Gwesteion:

Alice Farnham - Arweinydd

Alessandro Vazzana - Clarion (Quha Zono headmouse)

13 o gerddorion Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Amser Dechrau: 3pm

Amser rhedeg: Tua awr

Manylion hygyrch:

Mae’r perfformiad hamddenol hwn wedi’i lunio i fod yn addas ar gyfer cynulleidfaoedd niwrowahanol ac anabl, teuluoedd, ac unrhyw un a allai elwa o awyrgylch mwy anffurfiol.

Mae gennym agwedd hyblyg tuag at sŵn, ac mae aelodau’r gynulleidfa’n rhydd i fynd a dod o’r neuadd gyngerdd yn ôl yr angen. Os ydych chi’n dod i’r cyngerdd gyda phlant ifanc, gofynnwn yn garedig i chi helpu i gadw lefel y sŵn i lawr gymaint â phosibl er mwyn osgoi tynnu sylw’r gerddorfa. Bydd ardal dawel y tu allan i’r neuadd gyngerdd ar gyfer unrhyw un sydd angen amser tawel cyn neu yn ystod y perfformiad.

Bydd man eistedd hamddenol gyda bagiau ffa yn y neuadd gyngerdd. Does dim modd prynu tocynnau ar gyfer y bagiau ffa, ond gallwch symud i eistedd ar un ar y diwrnod. 

Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain:
Bydd dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer y cyngerdd hwn, gyda’r dehonglydd ar ochr dde’r llwyfan. 

Rhagor o wybodaeth am hygyrchedd:
I gael gwybodaeth am seddi a chyfleusterau hygyrch, ewch i Dudalen Hygyrchedd Neuadd Hoddinott. 

https://www.bbc.co.uk/programmes/articles/5PrvjhTgvZgG6V3RX09DBwp/bbc-now-noyo-access-information

Cynigion: 

O dan 26, di-waith, anabl £6 i ffwrdd

Cynigion Hynt yn gymwys

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi, dyraniadau ac argaeledd a ddewisir.

Pris tocynnau:

Safonol: £10

O dan 26, di-waith ac anabl: £6

Mae cynllun hygyrchedd Hynt yn gymwys, mae rhagor o wybodaeth yma

Hygyrchedd:

I archebu tocynnau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn sy'n mesur dros 90cm o led ac 80cm o hyd, ffoniwch y swyddfa docynnau ar 029 2063 6464. Yn anffodus nid yw'n bosib archebu'r llefydd yma ar-lein

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Neuadd Hoddinott Y BBC