MAE DIWRNOD NEWYDD WEDI DECHRAU.
Mae cynhyrchiad mawreddog newydd o sioe gerdd benigamp Andrew Lloyd Webber, Cats, yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Rhwng gorsaf Euston a Victoria Grove, mae cathod strae a gwrthryfelwyr Llundain yn ymgynnull dan y ‘Jellicle moon’ yn y gobaith o gael eu dethol uwchlaw pob un o’r lleill. Ac mae pob un yn gofyn, yn ddewr, pwy fydd hwnnw?
Cats - Mark Senior 1
Cats - Mark Senior 2
Cats - Mark Senior 3
Cats - Mark Senior 4
Cats - Mark Senior 5
Cats - Mark Senior 6
Cats - Mark Senior 7
Cats - Mark Senior 8
Cats - Mark Senior 9
Cats - Mark Senior 10
Cats - Mark Senior 11
Yn seiliedig ar Old Possum’s Book of Practical Cats gan T.S. Eliot a gyda sgôr anfarwol a fu’n ysbrydoliaeth i un genhedlaeth ar ôl y llall, gan gynnwys Old Deuteronomy, Macavity: The Mystery Cat, Jellicle Ball a’r gân aeth i frig y siartiau, Memory, bydd y cynhyrchiad newydd sbon yma o Cats, gyda Drew McOnie (Brigadoon, Jesus Christ Superstar) yn cyfarwyddo a choreograffu, yn cyrraedd ar 25 Mai 2027 am wythnos yn unig.
Mae Michael Harrison ar ran Lloyd Webber Harrison Musicals yn cyflwyno’r cynhyrchiad yma gan Regent’s Park Open Air Theatre. Drwy drefniant â LW Entertainment.
Canllaw oed: 8+ (dim plant o dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Rhybuddion: Goleuadau sy'n fflachio/strôb a chleciau uchel posib.
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau, Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 40 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig. Dod yn aelod.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, grwpiau o 40+ gostyngiad o £7 (y 2 bris uchaf, Maw – Gwe). Dyddiad talu: 25 Ion 2027. Trefnu ymweliad grŵp.
16-30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol (argaeledd cyfyngedig), Maw – Iau.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd