Mae Chicago, y sioe gerdd fwyaf rhywiol erioed, ‘nôl ar daith yn 2027.
“Murder, greed, corruption, exploitation, adultery and treachery… all those things we hold near and dear to our hearts”. Felly mae’r sioe gerdd arobryn ryngwladol Chicago yn dechrau.
Wedi’i osod ymhlith dirywiaeth ddisglair yr 1920au, Chicago yw stori Roxie Hart, gwraig tŷ a dawnsiwr clwb nos sy’n llofruddio ei chariad ar ôl iddo fygwth cerdded allan arni. Er mwyn osgoi euogfarn, mae hi’n twyllo’r cyhoedd, y cyfryngau a’i chyd-garcharor cystadleuol, Velma Kelly, drwy logi cyfreithiwr troseddol mwyaf slic Chicago i drawsnewid ei throsedd faleisgar yn ddilyw o benawdau syfrdanol, a allai ddod o dabloidau heddiw.
Wedi’i greu gan ddoniau theatr gerdd John Kander, Fred Ebb a’r coreograffydd hanesyddol Bob Fosse, mae sgôr rhywiol a sasi Cabaret, sydd ag un gân ysblennydd ar ôl y llall, yn cynnwys Razzle Dazzle, Cell Block Tango, ac All That Jazz. Gyda 6 Gwobr Tony, 2 Wobr Olivier, Grammy a miloedd o gymeradwyaethau sefyll, mae Chicago wir yn wych.
Peidiwch â cholli allan, archebwch nawr! Byddai colli allan yn drosedd…
*Gall y cast a’r amserlen berfformio newid heb rybudd.
'Sheer Theatrical Bliss'
Chicago (credit Paul Coltas) 1
Chicago (credit Paul Coltas) 2
Chicago (credit Paul Coltas) 3
Chicago (credit Paul Coltas) 4
Chicago (credit Paul Coltas) 5
Chicago (credit Paul Coltas) 6
Chicago (credit Paul Coltas) 7
Chicago (credit Paul Coltas) 8
Chicago (credit Paul Coltas) 9
'Still the sexiest most sensational musical'
Amser dechrau:
Llun - Sad, 7.30pm
Iau + Sad, 2.30pm
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed
Rhybuddion: Yn cynnwys goleuadau sy'n fflachio/strôb, pyrotechneg, cleciau uchel ac iaith gref
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys un egwyl)
CYNNIG AELODAU
GRWPIAU
16–30
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.