Ers cenedlaethau, mae cerddoriaeth tywysogesau Disney wedi bod yn drac sain i’n bywydau. Nawr, mae’r caneuon poblogaidd yma yn dod yn fyw ar y llwyfan gyda llwyth o sêr Broadway a’r West End yn Disney Princess – The Concert.
Bydd eich breuddwydion i gyd yn dod yn wir wrth i animeiddiadau anhygoel ac effeithiau theatraidd ymdrochi’r gynulleidfa yn hud pur Disney, wrth i’r doniau talentog ganu caneuon eich hoff dywysoges, arwr a (ie!) dihiryn, a rhannu straeon tu ôl i’r llen am eu hamser ar y llwyfan a’r sgrin.
Fe’ch gwahoddwn i ail-fyw eich dyddiau’n gwylio VHS, gwisgo eich hoff wisg frenhinol a rhannu llawenydd Disney gyda’r anwyliaid yn y profiad cyngerdd rhyngwladol canmoledig yma. Byddwch yn rhan o’n byd ni yn Disney Princess – The Concert!
Mae Disney Princess – The Concert wedi cael ei berfformio mewn 20 o wledydd ar 5 cyfandir ers y premiere yn 2021, gan gynnwys dwy daith ledled UDA o fwy na 100 o ddinasoedd, ac mae’n teithio ledled y DU ac Iwerddon am y tro cyntaf yn 2027.
Mae’r sioe yn cynnwys caneuon eiconig o fwy na 29 o ffilmiau, gan gynnwys How Far I’ll Go, A Whole New World, Just Around the Riverbend, Part of Your World, Almost There, Let It Go a mwy!
Bydd cast o ddoniau Broadway a West End Disney yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst.
Amser dechrau: 7pm
Canllaw oed: 5+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr (yn cynnwys un egwyl)
PROFIAD VIP
Sedd orau sydd ar gael
Profiad Gwirio Sain cyn y sioe (gyda pherfformiadau arbennig o ganeuon a sesiwn holi ac ateb gyda'r artistiaid)
Laniard VIP
Poster
Bwndel Nwyddau
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.