Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn
1fd69955-6e64-461b-ae56-fca50bd171b1

Grace – Astral Illuminations

Neuadd Hoddinott Y BBC

22 Ebrill 2027

Llwytho…
{{vm.booking_status}}

{{::on_sale_date.formatted_date}}

{{::on_sale_date.label}}

Ychwanegu i’r Calendr {{::on_sale_date.on_sale_date_moment.format('DD/MM/YYYY HH:mm')}} Europe/London Grace – Astral Illuminations {{::on_sale_date.label}} Neuadd Hoddinott Y BBC MM/DD/YYYY 15 event-3092

Hoddinott Hall

Grace – Astral Illuminations

22 Ebrill 2027

Neuadd Hoddinott Y BBC

RHYFEDDOD | ATGOF | DISGLEIRDEB

Cewch ymgolli mewn rhaglen wedi’i hysbrydoli gan fydoedd sy’n cylchdroi, tirweddau dychmygol, a chof gwerin, dan arweiniad Chloe Rooke, gyda’r unawdydd Laura van der Heijden.

Sinfonia (for Orbiting Spheres) gan Missy Mazzoli fydd yn agor y cyngerdd gan symud yn aflonydd, gyda’i ffigurau dolennog yn cylchdroi fel cysawd yr haul. Daw’r hanner cyntaf i ben gyda’r perfformiad cyntaf erioed o Astral Illuminations, Concerto Augusta Read Thomas i’r Soddgrwth, lle ceir cerddoriaeth liwgar a thelynegol ddwys sy’n dathlu llais llawn mynegiant y soddgrwth.

Ar ôl yr egwyl, bydd Cyfres ‘The Dark Island’ Grace Williams yn cyfleu morluniau geirwon, cyn i The Imagined Forest gan Grace-Evangeline Mason fynd â ni ar daith swreal, fel collage drwy dirwedd ffantasïol a ysbrydolwyd gan gelf gweledol a chwedlau gwerin. Symffoni gan Ester Mägi fydd yn cloi’r cyngerdd. Dyma ddarn sydd wedi'i wreiddio yn nhraddodiad gwerin Estonia ac sydd wedi'i siapio gan oes o fyfyrdod cerddorol dwfn – yr union beth i ddod â’r rhaglen hynod atmosfferig hon i ben yn bwerus.

Missy Mazzoli Sinfonia (for Orbiting Spheres) (10’) 
Augusta Read Thomas Astral Illuminations, Concerto Newydd i’r Soddgrwth [Premiere Byd] (25’) 
Egwyl
Williams Cyfres ‘Dark Island’ (c10’) 
Grace-Evangeline Mason The Imagined Forest (15') 
Ester Mägi Symffoni (14’) 

Canllaw oed: Dim plant dan 2 oed, rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Amser cychwyn: 7:30pm

Hygyrchedd Cadair Olwyn

Mae gan Neuadd Hoddinott bedair sedd hygyrch i bobl sy'n defnyddio cadair olwyn sydd gyda sedd gynorthwyo yn Rhes O, sydd wedi'i leoli yn gefn y neuadd gerddorfa.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd penodol neu os hoffech drafod eich gofynion cyn gwneud archeb, mae ein tîm cymorth cwsmeriaid yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ein gwasanaeth sgwrsio ar y we.

Anabl

Gostyngiad o £5

Dros 65

Gostyngiad o £2

Dan 26 oed a Myfyrwyr

£7

CYNLLUN HYNT

Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.

Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.

Cyflwynir yn

Neuadd Hoddinott Y BBC