Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

It's a Sin

6 - 10 Gorffennaf 2027

Theatr Donald Gordon

Gwaith dawns newydd Rambert, It’s a Sin, wedi’i ysbrydoli gan y gyfres lwyddiannus ganmoledig gan Russell T Davies, wedi’i gyfarwyddo a’i goreograffu gan y Cyfarwyddwr Artistig Benoit Swan Pouffer.

Llawenydd fel gwrthwynebiad. Cariad fel goroesiad.

Yng nghalon Llundain yr 80au, mae Ritchie, Roscoe, Colin a Jill yn rhedeg ar ôl hunaniaeth, cysylltiad a bywyd ar eu telerau eu hunain. Pan mae’r dydd yn troi’n nos, man nhw’n dod o hyd i fyd o afiaith, cerddoriaeth a chyfeillgarwch, lle mae cyrff yn symud yn rhydd ac mae bywyd yn teimlo’n ddiderfyn.

Ond wrth i’r argyfwng AIDS ddechrau datblygu, caiff eu bywydau eu newid am byth. Mae cariad, ofn a herfeiddiwch yn gwrthdaro wrth iddyn nhw frwydro dros ei gilydd mewn bywyd sy’n symud yn gyflym o’u cwmpas – ac sy’n fwyfwy anghyfeillgar i’w bodolaeth.

Gyda dawnswyr arbennig Rambert yn dod â’r hanes yn fyw, mae It’s a Sin yn gwau’r gorffennol a’r presennol yn rhywbeth crai, dwfn a dinistriol – stori epig wedi’i hadrodd drwy symudiad, gan ofyn pwy sy’n cael ei gofio, pwy sy’n cael ei adael ar ôl, a sut rydyn ni’n dewis byw nawr.

Mae It’s a Sin yn bosibl diolch i gefnogaeth fawr gan Gronfa 30 Mlwyddiant Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Mae It’s a Sin wedi cael ei gefnogi gan Incentivising Touring: Repayable Grants for Theatre and Dance, cynllun peilot wedi’i ddatblygu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr i gefnogi cynyrchiadau ar raddfa ganolig i deithio i leoliadau rhanbarthol. Roedd It’s a Sin ymhlith y 23 i gael cyfran o dros £4.5 miliwn ar draws dau gylch buddsoddi’r cynllun, sy’n creu cyfle i fwy o bobl weld sioeau o ansawdd uchel yn agos i le maen nhw’n byw.

Cyflwynir gan Rambert a Factory International. Cyd-gynhyrchwyd gyda Chanolfan Mileniwm Cymru (Caerdydd), Capital Theatres (Caeredin), Sadler’s Wells (Llundain) a Les Théâtres de la Ville (Luxembourg).

Cynhyrchwyr Gweithredol: Russell T Davies, Pet Shop Boys, Glyn Fussell

Mae’r cynhyrchiad yma wedi’i ysbrydoli gan y gyfres deledu It’s a Sin a grëwyd gan Russell T Davies a chynhyrchwyd gan Red Production Company.

Canllaw oed: 15+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Rhybuddion: TBC

Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 1 awr a 50 munud (yn cynnwys un egwyl)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Maw – Iau.

Trefnu ymweliad grŵp

16-30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon