Ar ôl dychwelyd i Lundain, mae Million Dollar Quarter, sioe gerdd lwyddiannus y West End a Broadway, yn mynd ar daith!
Ar noson 4 Rhagfyr, 1956, aeth pedwar eicon cerddorol i mewn i stiwdio recordio ym Memphis a gwneud hanes cerddorol. Daeth Johnny Cash, Jerry Lee Lewis, Carl Perkins ac Elvis Presley ynghyd drwy lwc pur ar gyfer sesiwn jamio a fyddai’n llunio llwybr roc a rôl. Nawr, 70 mlynedd ar ôl y digwyddiad pwysig hwnnw, dewch i ddathlu’r noson y daeth y Million Dollar Quartet at ei gilydd a newid cerddoriaeth am byth.
Gyda dros 20 o ganeuon llwyddiannus yn cael eu perfformio ar y llwyfan gan gynnwys: Blue Suede Shoes, Walk The Line, Hound Dog, Great Balls of Fire a llawer mwy. Profwch y digwyddiad unwaith mewn oes hwnnw, mewn sioe gerdd wefreiddiol a chafodd ei henwebu am 3 gwobr Tony lle mae cystadlaethau’n cynnau, cyfeillgarwch yn cael ei brofi a hanes roc a rôl yn cael ei greu.
Gyda’r seren llwyfan a sgrin Darren Day (Hollyoaks, Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat) fel Sam Phillips, y cynhyrchydd gweledigaethol a greodd sain roc a rôl, ochr yn ochr â chast syfrdanol a band byw, peidiwch â cholli’r dathliad bywiog yma o bedwar artist hanesyddol.
Archebwch nawr ar gyfer y sesiwn jamio roc a rôl orau mewn hanes!
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed) Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Rhybuddion: Iaith gref posibl
Amser dechrau:
Maw – Sad, 7.30pm
Mer, Iau, Sad, 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 5 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
GRWPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £4, Maw–Gwe perfformiadau 7.30pm (seddi penodol). Trefnu ymweliad grŵp
16–30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol (Maw–Gwe perfformiadau 7.30pm)
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.