Noson allan fawr. Mawr. ENFAWR.
Mae Pretty Woman: The Musical yn dod ‘nôl i Gaerdydd. Mae’n amser mynd i Beverly Hills a phrofi un o gomedïau rhamantus mwyaf eiconig Hollywood erioed. Mae’r sioe lwyfan newydd disglair yma yn mynd ar daith eto yn 2027 yn dilyn rhediad llwyddiannus yn y West End a thaith ledled y DU a werthodd allan yn 2023.
Mae Vivian ac Edward yn gariadon annisgwyl sy’n goresgyn er gwaethaf pob tebygolrwydd i ddod o hyd i’w gilydd… a’u hunain. Profwch eich hoff eiliadau o’r ffilm – a dewch i adnabod y cymeriadau eiconig yma mewn ffordd newydd sbon – yn y stori gariad lawen a disglair yma.
'SPECTACULAR. I LOVED EVERY SECOND'
Gyda thîm creadigol pwerus yn dod â’r stori’n fyw, yn cynrychioli goreuon y bydoedd cerddoriaeth, Hollywood a Broadway, mae Pretty Woman: The Musical yn cynnwys cyfarwyddyd a choreograffi gan Jerry Mitchell (Kinky Boots, Legally Blonde, Hairspray) sydd wedi ennill dwy wobr Grammy, sgôr roc gwreiddiol chwilboeth gan yr enillwyr gwobr Grammy Bryan Adams a Jim Vallance (‘Summer of ’69, ‘Heaven’) a llyfr gan gyfarwyddwr y ffilm Garry Marshall a’r sgrinawdur J.F. Lawton.
Syrthiwch mewn cariad â stori dylwyth teg orau Hollywood, yn fyw ar y llwyfan pan mae’n dod i Ganolfan Mileniwm Cymru ym mis Mehefin 2027.
'OUTSTANDING. CHARMING. FUNNY'
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Rhybuddion: Yn cynnwys iaith gref
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Maw – Iau.
16-30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.