Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Curious Incident of the Dog in the Night-Time

27 Ebrill – 1 Mai 2027

Theatr Donald Gordon

Dirgelwch mwyaf poblogaidd y ganrif.

Mae’r nofel boblogaidd ryngwladol a swynodd 10 miliwn o ddarllenwyr yn dod mewn fersiwn newydd sbon sy’n fwy cyffrous nag erioed. 

Mae gan Chris Boone feddwl arbennig ar gyfer rhifau, ond mae'm anghyfforddus gyda natur annisgwyl pobl a bywyd bob dydd. Pan mae ci cymydog yn cael ei ddarganfod yn farw, mae’n dod o dan amheuaeth. Yn benderfynol o brofi ei bod yn ddieuog, mae Chris yn troi’n dditectif ac yn unigolyn drwgddybiedig, sy’n cael ei thynnu i mewn i ddirgelwch sy’n tyfu’n dywyllach ac yn fwy cymhleth gyda phob cliw mae’n ei ddatgelu.

"An incredible rollercoaster of a tale"

The Guardian

Mae beth sy’n dechrau fel chwilio am droseddwr yn fuan yn datgelu cyfrinachau agosach at adref, sy’n ei gorfodi i wynebu gwirionedd a fydd yn profi ei dewrder, ei theulu a’i dealltwriaeth o ymddiriedaeth, annibyniaeth a’r byd ehangach.

Gyda Joe McFadden (The Shawshank Redemption – Taith y DU; 2:22 A Ghost Story – Gielgud Theatre; enillydd Strictly Come Dancing 2017) a'r ffefryn Eastenders Charlie Brooks (Chitty Chitty Bang Bang – Taith y DU; Ocean at the End of the Lane – National Theatre) fel rhieni Chris – Ed a Judy. 

Dyfeisgar, gafaelgar ac emosiynol, mae The Curious Incident of the Dog in the Night-Time yn cyfuno cynllwyn dirgelwch gyda stori bwerus dod i oed mewn digwyddiad theatraidd bythgofiadwy.

Canllaw oed: 11+ (dim plant o dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.

Rhybuddion: Gall gynnwys goleuadau sy’n fflachio/strôb, iaith anweddus ysgafn a synau uchel.

Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 40 munud (yn cynnwys un egwyl)

Perfformiadau Hygyrch

Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL): 29 Ebrill, 7.30pm

Perfformiad gyda chapsiynau: 30 Ebrill, 7.30pm

Perfformiad wedi’u sain ddisgrifio: 1 Mai, 2.30pm

Taithiau Cyffwrdd: 1 Mai, 1pm

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar seddi penodol (noson agoriadol), nifer cyfyngedig, Aelodaeth

GRWPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5 ar seddi penodol (Maw – Iau). Dyddiad talu: 19 Hydref 2026. Trefnu ymweliad grŵp.

YSGOLION

£12 — 1 sedd athro am ddim i bob 10 disgybl (ffoniwch 029 2063 6464 neu cofrestru fel archebwr ysgol). Ar gael Maw - Iau ar seddi penodol, argaeledd cyfyngedig.

16-30

Gostyngiad o £8 seddi penodol, Maw - Iau.  

Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Capsiynau Agored

Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)

Sain Ddisgrifiad

Teithiau Cyffwrdd

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon