Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

The Full Monty

2 - 6 Chwefror 2027

Theatr Donald Gordon

Weithiau mae rhaid i chi ddatgelu popeth!

Yn dathlu 30 mlwyddiant y ffilm eiconig a enillodd galon byd sinema Prydain, mae The Everyman Theatre, Cheltenham a Buxton Opera House mewn cydweithrediad â Mark Goucher a David Pugh yn cyflwyno The Full Monty, yn fyw ar y llwyfan. Yn ôl yn dilyn galw mawr, mae’r bechgyn yn dychwelyd gyda thaith genedlaethol!

'Bursting with wit and deeply touching'

The Telegraph

Does dim arwyr yn nrama dwymgalon Simon Beaufoy, dim ond grŵp o fechgyn yn ceisio adennill eu hurddas a’u balchder. Mae’r ddrama gyflym a doniol yma yn dal yn berthnasol iawn heddiw, wrth i ni wynebu argyfwng costau byw eto. Mae Gaz a’i ffrindiau yn anlwcus ac yn teimlo eu bod wedi cael eu taflu ar y domen, ond maen nhw’n benderfynol i ymladd yn ôl a datgelu ychydig yn fwy na fydden nhw erioed wedi meddwl y byddai rhaid iddyn nhw.

'A story of our times'

British Theatre

Fel yn y ffilm lwyddiannus o 1997, mae’r cynhyrchiad yma yn llawn chwerthin a thorri calon. Archebwch nawr i ail-fyw cerddoriaeth y 90au a mwynhau noson allan yng nghwmni ein grŵp o fechgyn wrth iddyn nhw weithio i gyflwyno sioe orau eu bywydau. 

'The classic British strip-com'

Rolling Stone

Gyda Kevin Clifton (Strictly Come Dancing, Taith Priscilla Queen of the Desert yn y DU ac Iwerddon 2026) fel Gaz, Stewart Wright (Doc Martin, The Upstart Crow–Apollo Theatre) fel Dave, James Gaddas (Coronation Street, Taith The Rocky Horror Picture Show yn y DU) fel Gerald, Ben Onwukwe (Taith The Full Monty yn y DU 2024, Taith The Shawshank Redemption yn y DU) fel Horse, Jon-Paul Bell (Hollyoaks, Masters of Air) fel Guy a Zrey Sholapurkar (Lark Rise to Candleford–The Watermill Theatre, Taith The History Boys yn y DU) fel Lomper.

Canllaw oed: 12(dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Rhybuddion: goleuadau sy'n fflachio/strôb, iaith gref a noethni

Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm

Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys un egwyl)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod

GRWPIAU

Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Maw – Iau.

Dyddiad talu grwpiau: 25 Tachwedd 2025

Trefnu ymweliad grŵp

16-30

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau

Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.

Sain Ddisgrifiad

Teithiau Cyffwrdd

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon