Tri deg mlynedd ar ôl y ffilm a newidiodd bopeth, mae Trainspotting: The Musical yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf.
Mae Renton, Sick Boy, Begbie, Spud, Tommy a Kelly, yr arwyr dosbarth gweithiol diwydiannol sy’n dwli ar gyffuriau, ‘nôl.
Yn 1996, roedd DEWISWCH FYWYD yn swnio fel her. Tri deg mlynedd yn ddiweddarach, mae'r dirwedd wedi newid, ond dyw’r newyn ddim. Dyw dibyniaeth heb ddiflannu – mae wedi newid. Mae'n dawelach nawr, yn fwy ymgorfforedig. Llai o nodwyddau, mwy o sgriniau. Llai o ddianc, mwy o ailadrodd. Yr un chwilio aflonyddgar am rywbeth i lenwi'r gofod.
Mae'r sioe gerdd yn tynnu sylw at y byd rydyn ni'n ei weld yn newid o'n cwmpas, y dwysedd anweddus o gyfoeth, pŵer economaidd a gwleidyddol yn nwylo cyn lleied o bobl. Mae'n mynd i'r afael â'r diwylliant modern o ddiffyg grym. Celf: y ceffyl Trojan canu a dawnsio sy’n cyflwyno cyfeiriad a pherthnasedd.
Trainspotting The Musical - Matt Crockett 1
Trainspotting The Musical - Matt Crockett 2
Trainspotting The Musical - Matt Crockett 3
Trainspotting The Musical - Matt Crockett 4
Trainspotting The Musical - Matt Crockett 5
Trainspotting The Musical - Matt Crockett 6
Trainspotting The Musical - Matt Crockett 7
Trainspotting The Musical - Matt Crockett 8
Trainspotting The Musical - Matt Crockett 9
Trainspotting The Musical - Matt Crockett 10
Nid hiraeth yw hyn, mae'n agosach na hynny. Dydyn ni ddim yn ailymweld â’r gorffennol – mae'n aros. Dyw'r sioe gerdd ddim yn ei dacluso. Mae'n eistedd gydag ef. Gwrando arno. A gadael iddo ganu. Caneuon newydd, caneuon clasurol, sioe gerdd fel erioed o'r blaen. Ddim yn addas i’r rhai sy’n cael eu sarhau yn hawdd. Mae'n ddoniol, yn uchel, yn ddeinamig, ac yn dod ag egni tywyll peryglus na brofwyd erioed o'r blaen ar lwyfan y West End.
"Rwy'n credu bod gan y sioe gerdd galon ddynol fwy, sy'n curo'n uwch na'r llyfr a'r ffilm. Mae angen i bobl feddwl am y byd rydyn ni'n byw ynddo, ac rydyn ni'n cynnig yr archwiliad yna, ond mae angen iddyn nhw hefyd ganu nerth eu pennau a chwerthin yn uchel – dyna beth yw bod yn ddynol." Irvine Welsh, Ebrill 2026
Does dim atebion glân yma. Dim ond cerddoriaeth anhygoel a fflachiadau o eglurder, hiwmor, a'r ymdeimlad anesmwyth o gydnabyddiaeth.
DEWISWCH FYWYD.
Ysgrifennwyd gan Irvine Welsh gyda Cherddoriaeth a Geiriau gan Stephen McGuinness ac Irvine Welsh a'i wedi’i chyfarwyddo a'i datblygu gan Caroline Jay Ranger.
Canllaw oed: 15+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Rhybuddion: Yn cynnwys golygfeydd a phortreadau o gymryd cyffuriau a marwolaeth. Yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau addas i oedolion, goleuaday sy'n fflachio/strôb a chleciau uchel posib.
Amser dechrau:
Maw – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr a 30 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig.
Dod yn aelod
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5 o leiaf ar seddi penodol, Maw – Iau.
16-30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Maw – Iau
Mae pob cynnig yn amodol ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.