Gwobr Annwn yw’r wobr fyd-eang gyntaf sy’n dathlu rhagoriaeth mewn straeon ymdrochol. Pedwar Byd. Un Lleoliad.
Nid straeon rydych chi’n eu gwylio yw’r rhain – rydych chi’n camu i mewn. Dydych chi ddim ar y tu allan yn edrych i mewn, rydych chi’n rhan o’r profiad wrth iddo ddigwydd o’ch cwmpas.
Mae’r wobr, a lansiwyd yn 2025 gan Ganolfan Mileniwm Cymru ac a gynhyrchwyd gyda Crossover Labs, yn nodi eiliad newydd fawr yn y calendr celfyddydol byd-eang. Wedi’i chefnogi gan Peter a Janet Swinburn, bydd yr artist neu stiwdio fuddugol yn cael £20,000 yn ogystal â chyfnod preswyl pwrpasol i gefnogi datblygiad gwaith newydd.
Bydd pedwar darn y rhestr fer yn cael eu harddangos yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 27 Mai a 26 Mehefin 2026, sef (yn nhrefn y wyddor): COLORED/NOIRE (Novaya – 35 munud), CONSENSUS GENTIUM (Karen Palmer – 25 munud), CONSTANTINOPOLIAD (Sister Sylvester – 52 munud) a NOWISWHENWEARE (The Stars) (Andrew Schneider – 30 munud).
Archebu Tocynnau:
Gallwch chi archebu ar gyfer pob profiad unigol drwy glicio ar y tudalennau isod a dewis pris eich tocyn ac amser:
Cyntaf i’r felin (dilys 27–31 Mai): Safonol £6 / Consesiwn £5
Safonol: £8
Consesiwn: £6
Wrth archebu ar gyfer y 4 profiad ar yr un pryd (gall hyn fod ar gyfer dyddiadau gwahanol, ond rhaid archebu mewn un trafodiad) byddwch chi’n cael gostyngiad:
Cyntaf i’r felin (dilys 27–31 Mai): Safonol £20 / Consesiwn £18
Safonol: £25
Consesiwn: £20
Ysgolion, colegau a phrifysgolion, cysylltwch â ni'n uniongyrchol am becyn pwrpasol yn tocynnau@wmc.org.uk.
Nodwch mai eich cyfrifoldeb chi yw rheoli eich amser rhwng profiadau os byddwch chi’n archebu ar gyfer mwy nag un mewn diwrnod. Cofiwch ystyried hyd y profiadau (sydd wedi’u nodi ar dudalennau’r profiadau), symud rhwng lleoliadau a chyfyngiadau eraill ar amser a all fod tu hwnt i’n rheolaeth. Ni fydd bob amser yn bosibl eich symud chi yn awtomatig i’r slot amser nesaf.
DIGWYDDIADUR